Menyw yn euog o dreisio dwy fenyw pan oedd hi'n ddyn
Mae menyw drawsryweddol wedi ei chanfod yn euog o dreisio dwy fenyw pan oedd hi’n ddyn.
Roedd Isla Bryson o Clydebank yn yr Alban wedi treisio’r ddwy fenyw tra roedd hi’n ddyn o’r enw Adam Graham.
Fe wnaeth hi gyfarfod â'r menywod ar y we, gan droseddu y tro cyntaf yn 2016, ac yna yn 2019.
Dywedodd yr erlyniad ei bod hi wedi “manteisio” ar ferched bregus.
Roedd Bryson yn gwadu’r cyhuddiadau, ond ar ôl i'r rheithgor ystyried eu dyfarniad am bron i ddiwrnod, cafodd ei dyfarnu'n euog.
Wrth annerch Bryson yn y doc ddydd Mawrth, dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Scott: “Rydych chi wedi’ch cael yn euog gan y rheithgor o ddau gyhuddiad hynod ddifrifol; sef cyhuddiadau o dreisio.”
Dywedodd wrthi fod y troseddau’n “sylweddol” a bod “dedfryd hir yn anochel”.
Cafodd mechnïaeth Bryson ei ddiddymu ac mae hi wedi’i chadw yn y ddalfa tan 28 Chwefror 28 er mwyn caniatáu i’r barnwr gasglu “cymaint o wybodaeth â phosib” amdani cyn penderfynu ar ei dedfryd.
Llun: Andrew Milligan, PA