Newyddion S4C

Pennaeth Undeb Rygbi Cymru yn gwrthod ymddiswyddo yn sgil honiadau

24/01/2023

Pennaeth Undeb Rygbi Cymru yn gwrthod ymddiswyddo yn sgil honiadau

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi gwrthod ymddiswyddo yn sgil honiadau o hiliaeth, rhywiaeth a chasineb at fenywod yn erbyn yr undeb. 

Fe wnaeth Steve Phillips ymddiheuro wedi i ddwy fenyw ddweud eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain ar ôl dioddef rhywiaeth honedig a bwlio o fewn y sefydliad.

Fe wnaeth cyn-weithwyr yr undeb gyhuddo'r corff o “ddiwylliant gwenwynig”.

Er hyn, mae Mr Phillips yn mynnu mai fe ydy'r person cywir i arwain yr undeb, er gwaethaf beirniadaeth gan gefnogwyr a'r rhanbarthau. 

Mewn llythyr wedi'i gyfeirio at glybiau URC, dywedodd Mr Phillips "nad oedd diwylliant yr undeb yn ddigon da." 

"Dwi methu troi'r cloc yn ôl, ond rydw i'n addo i chi byddwn yn dechrau gweithio ar unwaith i wneud newidiadau angenrheidiol. Ni fyddaf yn arwain sefydliad a fydd yn esgusodi'r ymddygiad honedig.

"Fe fyddwn yn ail-adolygu sut rydym yn ymddwyn yn URC ym mhob agwedd, ni fyddwn yn hunanfodlon yn y maes yma, nid o dan fy arweiniad.

"Rydw i'n poeni'n ddifrifol am y mater yma, mae URC yn poeni'n ddifrifol ac fe fyddwn yn gweithredu i sicrhau newid yn sgil unrhyw wall neu gŵyn gwirioneddol."

Yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth cynghrair o gefnogwyr rygbi Cymru alw am "ymchwiliad llawn i'r diwylliant yn Undeb Rygbi Cymru."

Mae'r Joint Supporters Group yn cynrychioli cefnogwyr y pedwar tîm proffesiynol yng Nghymru, ac mewn llythyr at Gadeirydd URC, Ieuan Evans, dywedodd y grŵp fod gwylio rhaglen materion cyfoes Wales Investigates y BBC nos Lun wedi bod yn "anodd ac yn codi sawl cwestiwn am yr hyn sy'n mynd ymlaen yn URC.

"Wrth ystyried hyn, byddwn ni'n galw ar Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd i gynnal ymchwiliad i lywodraethiant ac arweiniad Undeb Rygbi Cymru yn ystod cyfnod Steve Phillips.

"Rydym yn galw arnoch chi fel Cadeirydd URC i gyfarfod gyda ni yn uniongyrchol er mwyn ymateb i'r nifer o gwestiynau sydd gennym ni am reolaeth URC o'r gêm yng Nghymru."

Fe wnaethon nhw hefyd ofyn i Mr Evans "ryddhau Steve Phillips o'i rôl fel Prif Weithredwr ar unwaith a chynnal ymchwiliad llawn i'r diwylliant yn y sefydliad."

'Ofnadwy'

Wrth siarad ar Radio Wales ddydd Mawrth, dywedodd cyn brif weithredwr Chwaraeon Cymru Huw Jones fod y cyhuddiadau yn erbyn URC yn 'ofnadwy'.

Dywedodd Mr Jones fod angen diswyddiadau yn sgil y cyhuddiadau ac mae "pobl wedi galw am newid ar Fwrdd URC ers blynyddoedd bellach.

"Mae'n ddigalon pan rydych chi'n edrych ar y ffaith na fydd y Bwrdd yn debygol o wneud unrhyw beth am hyn a gobeithio bydd y Chwe Gwlad yn llwyddiannus a fydd pawb yn anghofio amdano.

"Mae yna heriau mawr yma i eraill sefyll i fyny a dweud nad yw hyn yn dderbyniol yn URC - mae'r noddwyr wedi mynegi pryder a dwi'n gobeithio bydd gwleidyddion yn gwneud hefyd."

Dywedodd URC eu bod yn cymryd unrhyw honiadau gan staff am ymddygiad, agwedd neu iaith yn ddifrifol ac nad oes lle i ymddygiad o’r fath yn URC neu rygbi Cymru.

Ychwanegodd yr undeb y byddant yn ymateb yn gyflym os bydd unrhyw honiad yn cael ei gadarnhau.

Dywedodd Mr Jones hefyd er bod  "Undeb Rygbi Cymru yn sefydliad annibynnol, mae'n gyfrifol am rygbi yng Nghymru a diddordeb ein cenedl ac nid yw'n iawn caniatáu iddo wneud dim.

"Does neb yn gwneud cyhuddiadau fel y rhai a wnaethom ni glywed ddoe heb fod yna arwyddocâd sylweddol iddynt. 

"Dyma'r bobl sy'n gyfrifol am lywodraethu yn y gêm - allwn ni ddim caniatáu i bethau fynd ymlaen fel hyn."

Wrth ymateb i'r honiadau yn erbyn yr Undeb, dywedodd Gweinidog Chwaraeon Cysgodol y Blaid Geidwadol, Tom Giffard AS ei fod "wedi digalonni."

"Mae'n hynod o siomedig i weld beth sydd yn ymddangos fel diwylliant o ddifaterwch tuag at mathau gwahanol o ymddygiad annerbyniol a diffyg ymchwil trylwyr i'r cwynion.

"Dwi wir yn gobeithio bod y materion i gyd yn cael eu hymchwilio'n llawn er mwyn rhoi sicrwydd y bydd camau'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw menywod yn cael eu hannog i beidio â chymryd rhan yn y gêm.”

Llun: Steve Phillips. Llun gan Ben Evans/Huw Evans Agency

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.