Gareth Bale i gystadlu yng nghystadleuaeth golff y PGA
24/01/2023
Mae Gareth Bale wedi cyhoeddi y bydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth golff y PGA fis nesaf.
Ddechrau Ionawr, cyhoeddodd Bale ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ac o'i glwb.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd y byddai'n cystadlu yng nghystadleuaeth PGA 'AT&T Pebble Peach Pro-Am' yng Nghaliffornia ym mis Chwefror.
Bydd nifer o golffwyr adnabyddus ac amaturiaid yn cystadlu, gan gynnwys enillydd yr US Open Matt Fitzpatrick yn ogystal â Jordan Spieth a Luke Donald.
Fe wnaeth Bale gynrychioli Cymru 111 o weithiau, gan sgorio 41 o goliau rhyngwladol.