Newyddion S4C

Elfyn Evans yn gorffen Rali Monte Carlo yn bedwerydd

22/01/2023
Elfyn Evans

Mae'r Cymro Elfyn Evans wedi cwblhau Rali Monte Carlo yn y pedwerydd safle.

Fe ddaeth yn seithfed ar y cymal olaf ddydd Gwener oherwydd pynjar wnaeth rhwystro ei obeithion i herio'r ceffylau blaen.

Fe gododd ei obeithion fore Sadwrn ar ôl iddo ddod yn ail ar ddau gymal cyntaf y dydd yn ei Toyota Yaris.

Ond methodd a gwella ei safle ar bedwar cymal ddydd Sul gan orffen yn y pedwerydd safle ar ôl tridiau.

Fe orffennodd 1:12.4 tu ôl i'r enillydd Sébastien Ogier o Ffrainc sydd wedi creu record newydd am ennill yn Monte Carlo.

Dyma rali gyntaf y bencampwriaeth eleni a bydd y gyrwyr yn symud ymlaen i Rali Sweden fis nesaf.

Fe ddaeth Evans yn bedwerydd yn y gystadleuaeth y llynedd.

Llun: Twitter/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.