O leiaf 10 o bobl wedi marw mewn achos o saethu yng Nghaliffornia
22/01/2023
Mae o leiaf 10 o bobl wedi marw yn dilyn achos o saethu mewn stiwdio ddawns yn ninas Monterey Park ger Los Angeles.
Roedd degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull mewn gŵyl i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Chineaidd nos Sadwrn.
Dywedodd heddlu'r ddinas fod o leiaf 10 o bobl arall yn cael triniaeth mewn ysbytai lleol.
Fe ddigwyddodd y saethu am tua 10pm nos Sadwrn amser Los Angeles, sef 6am yma yng Nghymru.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw'n amau mai dyn oedd yn gyfrifol am y digwyddiad ond nad ydynt wedi dal unrhyw un eto mewn cysylltiad â'r saethu.