Newyddion S4C

Elfyn Evans yn y pedwerydd safle yn Rali Monte Carlo

21/01/2023
Rali Monte Carlo

Mae'r Cymro Elfyn Evans yn y pedwerydd safle ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali Monte Carlo.

Fe ddaeth yn seithfed ar y cymal olaf ddydd Gwener oherwydd pynjar wnaeth rhwystro ei obeithion i herio'r ceffylau blaen.

Fe gododd ei obeithion fore Sadwrn ar ôl iddo ddod yn ail ar  ddau gymal cyntaf y dydd yn ei Toyota Yaris.

Sébastien Ogier o Ffrainc sy'n arwain y rali ar hyn o bryd.

Mae pedwar cymal yn weddill ddydd Sul o rali gyntaf y bencampwriaeth eleni.

Fe ddaeth Evans yn bedwerydd yn y gystadleuaeth y llynedd.

Llun: Twitter/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.