
'Dowch i'n cyfarfod ni': Rhwystredigaeth pentref wedi methiant cais am arian Codi'r Gwastad
Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi gwahodd gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU i Lanbedr er mwyn gweld y "broblem" traffig yn y pentref.
Daw hyn wedi i gais gan Gyngor Gwynedd fethu â derbyn arian o gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU i adeiladu ffordd osgoi yno.
Cafodd y cais ei gyflwyno wedi i'r cynllun gwreiddiol i adeiladu'r ffordd osgoi gael ei ddiddymu ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r holl brosiectau adeiladu ffyrdd yn y wlad.
Mae'r Cynghorydd Annwen Hughes yn cynrychioli ward Llanbedr ar Gyngor Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "siomedig ofnadwy" nad oedd y cais yn llwyddiannus ac yn "teimlo bod cymuned Llanbedr a'r trigolion wedi cael eu gadael lawr unwaith eto".

"Os ydych chi wedi bod i Lanbedr erioed 'dach chi’n gwbod am y broblem sy’n bodoli 'na ers blynyddoedd maith, a mae o’n gwaethygu, hyd yn oed yn ystod y gaeaf ma' 'na dagfeydd a hyn i gyd oherwydd y bont hynafol sydd yng nghanol y pentre'," meddai.
“O’ddan ni wir meddwl fysa’r cais yma wan yn cael ei ganiatáu gan Lywodraeth San Steffan a ‘dan ni’n siomedig iawn bo nhw ddim wedi cynnwys ni yn y cais yma."
Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes nad oedd cynrychiolydd ar ran Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru wedi dod i Lanbedr er mwyn gweld y sefyllfa.
“Dwi wedi bod yn siarad efo arweinydd Cyngor Gwynedd a dio’m ‘di deud bod o ‘di cyfarfod neb [o Lywodraeth y DU] yna," meddai.
"Ond wedi deud hynny ddaru na neb o Lywodraeth Cymru ddŵad i ymweld â Llanbedr i weld y gwir broblem cyn deud bo nhw’n tynnu yr arian hynny yn ôl."
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU ymateb yn uniongyrchol i'r pwynt hynny pan gafodd ei godi gyda nhw.
'Effaith ar y pentref'
Ond mae'r Cynghorydd Hughes yn gobeithio y bydd modd i drafodaethau sicrhau bod ffordd osgoi yn cael ei hadeiladu wedi'r cyfan.
“Ma’ na drafodaethau lu wedi bod a ma' nhw dal i barhau efo Llywodraeth Cymru. Ma' pawb wedi ceisio’u gorau glas i drio cael nhw i newid eu meddyliau," meddai.
"Fydd rhaid, os bydd 'na unrhyw ddatblygiad pellach efo'r ffordd, bydd rhaid eto rhoi cais cynllunio newydd i mewn achos fydd petha' ddim yn gallu digwydd mewn pryd a fydd y cais cynllunio presennol wedi dod i ben.
“Dowch i'n cyfarfod ni, fydd croeso i chi yn y pentra' a’r cwbwl 'dan ni isho ydy eistedd rownd y bwrdd hefo chi a dod i ryw gytundeb a cynllun a gewch chi weld drost eich hun yr effaith mae hyn yn gael bod ‘na ddim ffordd osgoi. Yr effaith mae hyn yn gael yn pentra’."
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, mewn datganiad ysgrifenedig fod y cyngor yn "hynod siomedig" fod y cais am arian ar gyfer y ffordd fynediad i faes awyr Llanbedr wedi ei wrthod.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Cronfa Codi'r Gwastad yn buddsoddi mewn isadeiledd sy'n gwella bywydau ar draws y DU, gan wasgaru cyfleoedd i ardaloedd sydd yn hanesyddol wedi eu hesgeuluso.
"Roedd pob prosiect yn destun proses asesu trwyadl dan reolau cadarn, teg a thryloyw, heb fod ASau lleol yn chwarae unrhyw ran yn y broses dethol."
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Mae bygythiad newid hinsawdd yn golygu bod rhaid i ni ddilyn trywydd gwahanol ar drafnidiaeth, a dyna pam wnaethom sefydlu adolygiad ffyrdd annibynnol i edrych yn fanwl ar y cynlluniau i gynyddu capasiti ffyrdd yng Nghymru.
"Fel Llywodraeth Cymru a llawer o sefydliadau eraill, mae Cyngor Gwynedd wedi datgan argyfwng hinsawdd. Byddwn yn gweithio gyda'r cyngor i ddatblygu atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â materion traffig yn y pentref."