Newyddion S4C

Jacinda Ardern i ymddiswyddo fel prif weinidog Seland Newydd

19/01/2023
Jacinda Ardern

Mae Jacinda Ardern wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddiswyddo fel prif weinidog Seland Newydd fis nesaf. 

Fe fydd Ms Ardern yn camu i lawr o'r rôl ar 7 Chwefror wedi bron i chwe blynedd wrth y llyw. 

Yn sgil y cyhoeddiad, fe fydd etholiad cyffredinol yn cael ei chynnal ym mis Hydref. 

Ers cael ei hethol yn 2017, mae Ms Ardern wedi wynebu sawl her sylweddol fel prif weinidog. 

Roedd wrth y llyw yn ystod yr ymosodiad dryll mwyaf yn hanes Seland Newydd, pan gafodd 51 o bobl eu saethu'n farw mewn dau fosg yn Christchurch yn 2019. 

Cafodd ei chanmol yn rhyngwladol am ei chymorth i'r rhai a wnaeth oroesi'r ymosodiad a'r gymuned Fwslimaidd ehangach yn Seland Newydd. 

Ond fe wnaeth wynebu beirniadaeth am ei pholisïau wrth ddelio gyda'r pandemig Covid-19. Fe wnaeth Seland Newydd weithredu polisi 'dim Covid' llym iawn, gan osod cyfyngiadau caeth ar deithio i mewn ag allan o'r wlad. 

Er i Seland Newydd ddioddef nifer isel o farwolaethau o gymharu â gwledydd eraill, mae Ms Ardern bellach wedi cyhoeddi comisiwn i ystyried penderfyniadau'r llywodraeth ar y pryd. 

Mewn cynhadledd emosiynol i'r wasg, dywedodd Ms Ardern mai ei rheswm dros gamu i lawr oedd "gan nad oes dim byd ar ôl gen i yn y tanc.

"Mae'r digwyddiadau yma wedi bod yn fliedig oherwydd pa mor barhaol maen nhw wedi bod.

"Mae wedi teimlo fel cyfnod lle mai'r oll yr oeddwn yn ei wneud oedd llywodraethu.

"Ar ôl chwe blynedd o rhai sialensiau mawr, rydw i'n ddynol." 

Nid yw'n glir eto pwy fydd yn camu i mewn fel prif weinidog cyn yr etholiad, wedi i'r dirprwy brif weinidog, Grant Robertson, ddweud na fydd o'n cymryd rhan mewn etholiad am yr arweinyddiaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.