Plannu gwrychoedd ar fferm yn Sir Conwy yn 'draffordd i greaduriaid'
![Newyddion S4C](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/newyddion-S4C_0.png)
Plannu gwrychoedd ar fferm yn Sir Conwy yn 'draffordd i greaduriaid'
Creu traffordd i greaduriaid o bob math - dyna yw bwriad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth blannu tair kilometr o wrychoedd ar Fferm y Foel yng Nghwm Penmachno yn Sir Conwy.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth bydd y gwrychoedd yn cysylltu gyda choedlannau sy’n bodoli'n barod ag yn hwb mawr i fyd natur a’r fferm.
Dywedodd Heledd Jones o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Yng nghanol y tywydd oer mae na brysurdeb mawr ar Fferm y Foel y dyddia yma wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen i blannu gwrychoedd efo coed cynhenid o bob math… mae’r gwaith wedi bod yn cael ei wneud ers wythnosau bellach.
"Mae’n gallu bod yn waith called ond mae o’n andros o waith boddhaol i’w wneud - mae o’n creu budd i’r ffarm yn fama. Bydd o’n creu lot o gysgod yn y pen draw ac yn andros o dda ar gyfer bioamrywiaeth yn yr ardal. Mae na gymysgedd yn fama (o goed). Mae gennom ni ychydig o goed derw, draenen wen, draenen ddu a da ni jyst yn eu cymysgu nhw gyd efo’i gilydd."
Mae Fferm y Foel yn 1,600 o aceri i gyd ac yn fferm fynydd draddodiadol ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda phwyslais mawr ar fyd natur.
Wil Bigwood ydy rheolwr Fferm y Foel, a dywedodd Heledd Jones bod y gwaith plannu gwrychoedd yn ganolog i ddyfodol y fferm.
"De ni wedi plannu o gwmpas tri kilometr o wrychoedd yma. Mae’n mynd i helpu ni i reoli stoc am un peth… gwella ffensys a wedyn hefyd bydd o’n rhoi cysgod i’r anifeiliaid ond hefyd mae o’n dda i bioddiogelwch ac ati..."
Yn ôl Simon Rogers, Rheolwr Cefn Gwlad gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd adar a mamaliaid o bob math yn gallu eu defnyddio i symud o gwmpas i diroedd newydd.
"Dyma un o’r pethau mwyaf pwysig amdanyn nhw, nid jyst y coed eu hunain ond y ffaith bod nhw’n cysylltu gwahanol ddarnau o gynefinoedd sydd yma’n barod. So mae natur yn defnyddio nhw fel lonydd rili i symud drwy’r tirlun o un lle i’r llall, stopio am break bach a cael bach o fwyd.
"Ond y peth pwysig ydy’r ffaith bod nhw’n gallu symud trwy’r tirlun i gyrraedd llefydd newydd felly."