Achos llys Minffordd: Mab wedi 'llusgo ei dad o'i gar a sathru arno'
Clywodd rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug honiadau fod mab wedi llusgo ei dad o'i gar a sathru arno gydag esgidiau oedd â chapiau metel, gan achosi anafiadau difrifol i'w ben.
Bu farw Dafydd Thomas o bentref Minffordd ger Porthmadog o'i anafiadau ym mis Mawrth 2021.
Yn ol yr erlyniad, mae Tony Thomas wedi derbyn iddo ymosod ar ei dad ond yn gwadu iddo'i lofruddio.
Roedd Dafydd Thomas yn ŵr a thad, ac yn ddyn busnes blaenllaw a oedd yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services (GEWS) Cyf, sydd wedi ei leoli ym Mhenrhyndeudraeth.
Ac ôl treulio degawdau yn rhedeg y cwmni, roedd yn y broses o ymddeol.
'Gwaed'
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, fe glywodd y llys fod Tony Thomas wedi gwneud y daith fer o'i gartref i dŷ ei dad ar y fferm i chwilio amdano ym mis Mawrth 2021.
Clywodd y llys iddo adael yn ddiweddarach.
Fe ddechreuodd gwraig Dafydd Thomas, Elizabeth, boeni amdano a defnyddio meddalwedd ar ei ffon i ddod o hyd iddo.
Roedd e ryw gan metr o'r cartref ac fe aeth yno i chwilio amdano.
Fe glywodd y llys gan Elizabeth Thomas brynhawn Mawrth, a ddywedodd iddi ddarganfod ei gŵr ar y llawr ger ei gar, gyda gwaed yn dod o'i ben. Dywedodd iddi weiddi arno am ymateb, ac yn syth wedyn, fe ffoniodd y gwasanaethau brys am gymorth.
"Oedda ni'n trio egluro lle oedda ni, a rhywun ar ffôn yn dweud wrthai neud CPR", meddai.
"On i'n gwneud CPR, ond y mwya oni'n neud hynny, y mwyaf o waed oedd yn dod o'i geg".
'Ofn'
Bu farw Dafydd Thomas yn y fan a'r lle.
Fe glywodd y llys fod Ms Thomas wedi gweld Tony Thomas yn cerdded o'r fan lle wnaeth hi ddarganfod ei gŵr ynghynt.
"Roedd o'n cerdded yn araf, doeddwn i ddim isio fo droi rownd. On' i ofn o".
Yn ôl yr erlyniad, fe gafodd Tony Thomas ei arestio rai oriau yn ddiweddarach, gyda bag o ddillad gwlyb yn ei feddiant.
Yn ystod yr achos ddydd Mawrth, fe gafodd sylw hefyd ei roi i gyflwr meddyliol Tony Thomas.
Clywodd y llys iddo ddioddef pyliau o anhwylder deubegwn neu bi-polar ers iddo fod yn y brifysgol, a bod hynny wedi achosi i'r berthynas ddirywio rhyngddo â'i dad, yn enwedig yn y ddwy flynedd cyn marwolaeth Dafydd Thomas.
Roedd hefyd wedi treulio cyfnod yn uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Tony Thomas yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth a dynladdiad. Ac mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug bara am dair wythnos.