Newyddion S4C

Prisiau rhai bwydydd sylfaenol wedi codi 30%

18/01/2023
Archfarchnad

Roedd prisiau bwydydd sylfaenol fel llaeth, menyn a chaws 30% yn uwch mewn rhai archfarchnadoedd ym mis Rhagfyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn ôl ffigyrau newydd. 

Mae'r cwmni Which? wedi bod yn casglu ystadegau ar y cynnydd ym mhrisiau wyth archfarchnad yn y DU - Aldi, Asda, Lidl, Morrisons, Ocado, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose.

Ar gyfartaledd, fe gododd pris menyn 29.4%, ac roedd cynnydd o 26.3% ym mhris llaeth. 

Fe wnaeth prisiau caws (22.3%), eitemau o'r popdy (19.5%) a dŵr potel (18.6%) hefyd gynyddu yn uwch na chyfradd chwyddiant. 

Mae Which? hefyd wedi darganfod bod prisiau eitemau yn y categori 'rhad' neu sydd heb eu brandio wedi cynyddu ar raddfa uwch o gymharu ag eitemau o frandiau poblogaidd. 

Yn ôl yr ystadegau, mae prisiau eitemau yn y categori rhad wedi cynyddu dros 20% ar gyfartaledd tra bod prisiau eitemau sydd heb eu brandio wedi cynyddu 18.5%. 

Ar y llaw arall, mae'r cynnydd ym mhrisiau nwyddau o frandiau poblogaidd yn is na'r gyfradd chwyddiant o 15%. 

Yn sgil y ffigyrau newydd, mae Which? wedi galw ar archfarchnadoedd i reoli prisiau eu hadran bwydydd 'rhad'. Mae galwad hefyd i'w gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gymharu prisiau. 

"Mae ein data yn dangos bod pobl yn colli ffydd mewn archfarchnadoedd wrth iddynt bryderu bod siopau yn blaenoriaethu elw dros bobl sydd yn ei gweld hi'n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw," meddai pennaeth polisi bwyd Which?, Sue Davies. 

"Mae rhaid i archfarchnadoedd wneud mwy. Mae Which? yn galw arnynt i sicrhau bod ystod fforddiadwy o fwydydd sylfaenol ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl yn ei gweld hi'n anos."

Yn ôl ffigyrau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a gafodd eu cyhoeddi fore Mercher, mae cyfradd chwyddiant wedi lleihau ychydig i 10.5%. 

10.7% oedd y ffigwr ym mis Tachwedd.  Prisiau rhatach tanwydd a dillad yw un o'r rhesymau am y cwymp bychan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.