Teulu'n talu teyrnged i ddyn fu farw ar fferm ar Ynys Môn
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn digwyddiad ar fferm ar Ynys Môn wedi talu teyrnged iddo.
Cafodd swyddogion eu galw i'r safle yng Ngharreglefn, Amlwch ar nos Fawrth, 3 Ionawr, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi'i anafu'n ddifrifol wrth weithio ar y fferm.
Cafodd Macauley Owen, 26, ei gludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw yn yr ysbyty o ganlyniad i'w anafiadau.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei dad, Wil, ei fod wedi'i "chwalu" gan farwolaeth Macauley.
"Nid yn unig fy mab oedd Macauley, ond hefyd fy ffrind gorau a phartner gwaith," meddai.
"Mi oedd o'n ddyn hwylus, dibryder gydag angerdd ar gyfer peirianwaith ers iddo fod yn ifanc, ni allaf ddisgrifio mewn geiriau faint byddaf yn ei golli."
Ychwanegodd ei fam, Carys, ei bod yn "falch" i fod wedi bod yn fam i Macauley.
"Ni all geiriau disgrifio'r tristwch rydw i'n ei deimlo dros golled Macauley," meddai.
"Ni fydd y galar byth yn gwella a fe fyddwn yn gwneud unrhyw beth i'w ddal yn fy mreichiau unwaith eto.
"Rydw i'n mor falch o'i holl lwyddiannau a'r dyn ddaeth i fod yn ystod ei fywyd."
Dywedodd chwaer Macauley, Lucy, ei bod ei chalon "wedi ei thorri'n ddarnau" yn dilyn ei farwolaeth.
Fe wnaeth ei nain, Peggy, hefyd dalu teyrnged iddo gan ddweud bod Duw wedi ennill angel newydd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Macauley gan weithio ar y cyd gyda'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch.