Athrawon i fynd ar streic yng Nghymru
Athrawon i fynd ar streic yng Nghymru
Bydd athrawon yn mynd ar streic yng Nghymru a Lloegr yn sgil anghytundeb dros gyflogau.
Cyhoeddodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) ganlyniad y bleidlais am 5pm ddydd Llun, gyda mwyafrif mawr yn pleidleisio o blaid streicio.
Fe wnaeth naw allan o deg aelod o'r undeb bleidleisio o blaid streicio.
Bydd diwrnod y streic gyntaf ar 1 Chwefror, gyda mwy na 23,000 o ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn cael eu heffeithio, a bydd streic arall ar gyfer Cymru'n unig ar 14 Chwefror.
Fe fyddan nhw hefyd yn streicio ar draws Cymru a Lloegr ar 15 a 16 Mawrth.
Pleidleisiodd 92% o athrawon sy'n aelodau o'r NEU o blaid streicio yng Nghymru gyda 88% o staff cynorthwyol yn pleidleisio i wneud yr un peth.
Dyma oedd y bleidlais fwyaf yn ystod gaeaf sydd wedi gweld nyrsys, gweithwyr ambiwlans a gweithwyr rheilffyrdd hefyd yn penderfynu streicio.
Roedd 350,000 o athrawon yn gymwys i bleidleisio ar draws Cymru a Lloegr.
'Siomedig'
Dywedodd ysgrifenyddion cyffredinol yr NEU, Mary Bousted a Kevin Courtney, eu bod wedi "mynegi pryderon yn barhaus gydag ysgrifenyddion addysg olynol am gyflogau athrawon a staff cynorthwyol, a'r cyllid mewn ysgolion a cholegau. Ond yn hytrach na cheisio dod o hyd i ateb, maent wedi eistedd ar eu dwylo.
"Mae’n siomedig bod yn well gan y Llywodraeth siarad am ddeddfwriaeth gwrth-streic sydd yn fwy llym fyth, yn hytrach na chydweithio gyda ni i fynd i’r afael a'r hyn sy'n achosi gweithredu diwydiannol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall ac yn parchu’r teimladau sydd wedi’u mynegi yn y pleidleisiau hyn am weithredu diwydiannol heddiw. Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cyfarfod ag undebau athrawon a phenaethiaid yn hwyrach yr wythnos hon i drafod canlyniad y pleidleisiau.
"Yng Nghymru rydyn ni’n rhoi gwerth ar bartneriaeth gymdeithasol ac rydyn ni’n parhau i gyfarfod ag undebau llafur yn rheolaidd i drafod ystod o faterion sy’n effeithio ar y gweithlu."