Rhybudd melyn am eira a rhew i rai siroedd yng Nghymru
16/01/2023
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew ar gyfer rhannau o Gymru wrth i'r tymheredd ostwng.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 12:00 ddydd Llun ac mae yn para tan 12:00 ddydd Mawrth.
Mae disgwyl y bydd y ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio.
Fe allai rhwng 5-10cm o eira ddisgyn ar diroedd uchel, a rhai centimetrau ar diroedd is.
Mae rhybudd hefyd y gallai'r rhew achosi anafiadau wrth i bobl lithro neu syrthio.
Dyma'r siroedd sydd yn cael eu heffeithio:
- Conwy
- Gwynedd
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
- Ynys Môn