Newyddion S4C

'Rhagor o streiciau nyrsys yn fuan'

Newyddion S4C 15/01/2023

'Rhagor o streiciau nyrsys yn fuan'

Mae disgwyl i'r dyddiadau nesaf ar gyfer streic nyrsys gael eu cyhoeddi'n fuan, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru.

Yn ystod trafodaethau gyda’r undebau wythnos ddiwethaf fe gynigodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan daliad untro i geisio dod i’r afael a’r anghydfod tâl, ond mae gweithwyr iechyd wedi dweud na fydden nhw’n ystyried y cynnig hwnnw, ac yn galw am fwy o newid.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C ddydd Sul, dywedodd y Gweinidog Iechyd unwaith eto nad oes digon o arian ganddyn nhw i ateb eu gofynion.

“Yn y gorffennol da ni wedi cael arian dros ben ond eleni ma’ costau yr NHS wedi mynd i fyny fel bob dim arall felly does dim arian ar ôl, felly fydd hi’n amhosibl i ni fod mewn sefyllfa lle ni’n gallu talu flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai.

“Ma’ gan yr NHS ddyled yng Nghymru ac mae’n mynd i fod yn anodd i ni lenwi’r bwlch yna.”

Mae’r gwasanaeth iechyd wedi profi pwysau digynsail y Gaeaf hwn, ond yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol yr unig fforddi i ddatrys hynny yw i “ddarparu cyflogau teg am eu gwaith.”

Dywedodd Kathrine Davies, aelod o Goleg Nyrsio Brenhinol: “Yr unig ffordd y bydd nyrsys sydd wedi gadael yn dod 'nôl mewn i’r gwasanaeth iechyd yw i godi eu cyflogau nhw i fod yn gyflog sy’n adlewyrchu’r swyddi a’r cyfrifoldeb ma’ nhw’n cymryd wrth fod yn nyrsys.

“Ar ôl un rownd o streiciau ma' nhw di darganfod bod cronfa o arian y gallen nhw ddefnyddio fel un- dal, felly gobeithio ar ôl rownd arall o streicio, bydde nw‘n gallu ffeindio cronfa arall o arian ar ein cyfer”.

Nid yn unig y nyrsys fydd yn gweithredu ymhellach, mae gweithwyr ambiwlans eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw'n streicio eto ar y 19 a 23 Ionawr.

'Anodd, ond nid yn amhosib'

Yn ôl y gwrthbleidiau mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ddatrysiad yn fuan.

Dywedodd Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd: "Mae'n rhaid i ni weld y gweinidog iechyd yn rhoi stop ar feio Llywodraeth y DU am rhywbeth sydd yn rhan o'i chyfrifoldeb hi," meddai.

Dyweodd llefarydd ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rydw i'n cytuno'n llwyr gyda'r gweinidog Llafur nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu digon o adnoddau.

"Ond fe glywson ni Eluned Morgan yn dweud ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd i'r arian - mae'n anodd, wrth gwrs, ond nid yn amhosib."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.