Rhybudd melyn am law trwm i rannau o Gymru fore Sadwrn
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am law trwm yn parhau mewn mannau fore dydd Sadwrn.
Fe ddaeth rhybudd melyn am law trwm i rym am 21:00 nos Wener gan effeithio ar 12 sir ar hyd a lled Cymru. Fe fydd y rhybudd yn parhau mewn lle hyd at ganol dydd ac mae rhybudd y gallai arwain at lifogydd.
Daw hyn wedi wythnos hynod o wlyb i Gymru, gyda nifer o ardaloedd yn dioddef llifogydd difrifol, toriadau trydan a thrafferthion teithio.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i rhwng 20 a 30mm o law gwympo dros nos Wener a bore Sadwrn, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 50 i 60mm.
Mae'r swyddfa wedi rhybuddio bod rhagor o lifogydd yn debygol oherwydd yr amodau gwlyb sydd eisoes wedi bod yn ystod yr wythnos.
Mae yna rybuddion y gallai rhai tai a busnesau cael eu difrodi ac y gall nifer o bobl ddioddef toriadau i'w cyflenwadau trydan.
Mae yna hefyd neges i gymryd gofal wrth deithio oherwydd amodau gyrru gwael, gyda disgwyl y bydd oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Fynwy
- Abertawe
- Powys
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Wrecsam
- Sir y Fflint
- Sir Benfro