Dynion Cymru yn colli eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan Hoci'r Byd
Colli oedd hanes dynion Cymru yn eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan Hoci'r Byd.
Ond bydd y garfan eisiau anghofio'r perfformiad wrth i Loegr eu trechu 5-0.
Doedd pethau ddim wedi dechrau'n addawol i Gymru wrth i amddiffynnwr Lloegr Nick Park sgorio o gic cosb cornel o fewn y funud gyntaf.
Parhaodd y pwysau ar Gymru yn y chwarter cyntaf wrth i Loegr fygwth sgorio ar sawl achlysur, ond daliodd Cymru ymlaen i fynd mewn i'r egwyl yn colli o un gôl yn unig.
Roedd Cymru yn ei gweld hi'n anodd creu unrhyw gyfleoedd yn hanner Lloegr yn yr ail chwarter, wrth i Loegr amddiffyn yn dda a pharhau i ymosod.
A gwobrwywyd Lloegr am eu holl bwysau wrth i'r ymosodwr Liam Ansell sgorio heibio Toby Reynolds-Cotterill gyda dim ond dwy funud i fynd o'r ail chwarter.
2-0 i Loegr oedd hi ar ôl yr ail chwarter, gyda Chymru yn gwynebu mynydd o her yn yr ail hanner.
Roedd Ansell wedi rhwydo unwaith yn eto yn yr ail hanner, gan ymestyn mantais Lloegr o 3 gôl i ddim.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru pan sgoriodd Phil Roper ei gôl gyntaf o'r gêm i'w gwneud hi'n 4-0.
Nicholas Bandurak orffenodd perfformiad campus gan Loegr wrth iddo sgorio'r pumed.
5-0 oedd y sgôr terfynol - diwrnod i'w anghofio i Gymru yn eu gêm gyntaf erioed yng Nghwpan y Byd.
Bydd Cymru yn wynebu Sbaen yn eu gêm nesaf ddydd Sul.
Llun: Hoci Cymru