Ffoadur sâl yn dychwelyd i Wcráin ‘am fod rhaid disgwyl rhy hir i weld meddyg’
Penderfynodd ffoadur sâl ddychwelyd i Kyiv er mwyn derbyn triniaeth oherwydd bod rhaid disgwyl yn rhy hir i weld meddyg teulu ym Mhrydain, yn ôl gwleidydd.
Cododd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, Alex Cole-Hamilton, y pwnc yn ystod cwestiynau Prif Weinidog yr Alban ddydd Iau.
Dywedodd bod ‘Maria’ yn 22 oed ac wedi bod yn byw yn yr Alban ers yr haf.
“Mae hi’n dioddef o gyflwr thyroid hormonaidd sydd yn golygu fod angen arni driniaeth a phrofion cyson,” meddai.
“Ond roedd y cyfnod o ddisgwyl i weld ei meddyg teulu mor hir sylweddolodd y byddai yn gwneud mwy o synnwyr iddi ddychwelyd adref i weld ei doctor yn Kyiv.
“Roedd y seirenau cyrch awyr ac ymosodiadau taflegrau ym mhrifddinas Wcráin yn llai brawychus i Maria nag aros am driniaeth yn GIG yr Alban.
“Mae hynny'n warthus.”
Ymateb
Gofynnodd i'r Prif Weinidog Nicola Sturgeon a oedd hynny’n destun cywilydd iddi.
Ymatebodd Sturgeon nad oedd hi’n ymwybodol o fanylion yr achos.
“Mae yna fwy o feddygon teulu y pen yn yr Alban nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae 83 meddyg teulu'r pen yma o’i gymharu â 63 yn Lloegr, 63 yng Nghymru a 75 yng Ngogledd Iwerddon.”