'Llywodraeth Cymru angen gwneud mwy i gynllunio ar gyfer glaw trwm'

12/01/2023

'Llywodraeth Cymru angen gwneud mwy i gynllunio ar gyfer glaw trwm'

Mae angen i Lywodraeth Cymru "wneud mwy i gynllunio ar gyfer y glaw trwm", yn Ă´l AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan. 

Daw ei sylwadau yn dilyn llifogydd a glaw trwm i sawl rhan o Gymru ddydd Iau, gyda'r mwyafrif yn y dwyrain a'r de ddwyrain.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mai yn Rhondda Cynon Taf oedd y llifogydd ar eu gwaethaf.

Wrth gyfeirio at y llifogydd yn y sir, dywedodd Ms Fychan fod angen i Lywodraeth Cymru "annog ein Cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf, i ddeall yn well sut i osgoi llifogydd ac i gefnogi cymunedau.

"Dro ar Ă´l tro, gwrthododd Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad annibynnol i lifogydd dinistriol 2020.

"Mae Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad, a byddaf yn cyflwyno tystiolaeth gan gymunedau ar draws Canol De Cymru yn hwyrach eleni, ond dylai'r gwaith hwn fod wedi digwydd yn syth ar Ă´l mis Chwefror 2020. Mae'n rhaid dysgu gwersi, a hynny ar frys."

'Uchaf erioed'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y difrod yn peri “tristwch” ond bod lleihau’r risg o lifogydd a chynnydd yn lefel y môr “yn flaenoriaeth i ni”.

 â€œRydym yn darparu’r lefelau uchaf erioed o gyllid i’n hawdurdodau reoli perygl llifogydd i helpu i ddiogelu cartrefi a busnesau ledled Cymru,” medden nhw.

“Dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf fe wnaethom ni fuddsoddi dros £390m mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol trwy ddwy raglen.

“Roedd hyn wedi lleihau’r perygl i fwy na 47,000 o adeiladau ledled Cymru.

“Y flwyddyn ariannol hon rydym yn buddsoddi mwy na £71m ledled Cymru drwy Awdurdodau Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu asedau llifogydd newydd, cynnal a chadw asedau presennol, datblygu cynlluniau yn y dyfodol, rheoli llifogydd naturiol, mesurau er mwyn gwrthsefyll llifogydd eiddo, mapio, modelu a chodi ymwybyddiaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.