12 o bobl wedi marw mewn tân gwyllt yn Sbaen wrth i don wres barhau yn ne Ewrop
Mae o leiaf 12 o bobl wedi marw a chwech wedi'u hanafu mewn tân gwyllt yn ne Sbaen, meddai llywodraeth ranbarthol Andalusia.
Mae tua 150 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r tân.
Mae ymladdwr tân o Ffrainc ymhlith y rhai a fu farw.
Yn ôl adroddiadau lleol cafodd y tân ei achosi gan linell bŵer a dorrodd i lawr, cyn lledu i ardal goediog yn Los Gallardos, Almeria ond nid yw'r awdurdodau wedi cadarnhau hynny eto.
Mae ton wres gyda thymheredd o tua 40C (104F) wedi achosi tanau gwyllt ledled de Ewrop yr haf hwn.
Mae cannoedd o ddiffoddwyr tân yn brwydro yn erbyn digwyddiadau mawr yn Ffrainc, Portiwgal a Sbaen, gyda miloedd yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.
Dywedodd llywodraeth ranbarthol Andalusia:"Mae nifer y bobl a fu farw yn y tân yn Los Gallardos wedi codi i 12 ar ôl cadarnhau chwe marwolaeth arall.”
Cafwyd hyd i gyrff nifer o bobl mewn ceir, ar ôl ceisio dianc rhag y fflamau wrth i'r tân ledaenu yn ystod y nos.
Llun: EPA