12 o bobl wedi eu hanafu mewn achos o saethu yn America
Mae 12 o bobl wedi eu hanafu mewn achos o saethu yn ninas Toledo yn nhalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd yr heddlu yn y ddinas eu bod nhw’n chwilio am ddau ddyn oedd yn tanio arfau "mwy na thebyg at ei gilydd" yn dilyn y digwyddiad.
Mae llefarydd ar ran y llu yn dweud bod 10 o bobl "mewn cyflwr sefydlog tra bod dau yn dal mewn cyflwr difrifol".
Roedd yr heddlu wedi ymateb i adroddiadau o saethu ger safle gŵyl Old West End yn y ddinas am tua 17.37 amser lleol (21.37 GMT) ddydd Sadwrn.
Mae'r ŵyl yn disgrifio ei hun fel digwyddiad sy'n "dathlu un o'r ardaloedd hanesyddol mwyaf yn y wlad gyda cherddoriaeth fyw, nifer o farchnadoedd bwyd, gardd gwrw, teithiau o amgylch tai, siopa, a llawer mwy".
Dywedodd Llywodraethwr talaith Ohio, Mike DeWine: "Rwy'n bryderus iawn am y sefyllfa yn Toledo heno.
"Dylai gwyliau haf fod yn lleoedd diogel i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd heb ofni trais.
"Rwy'n gweddïo dros bawb sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad yng ngŵyl Old West End, ac rydym yn hyderus y bydd yr heddlu'n dod o hyd i'r rhai sy'n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â'r drosedd ddisynnwyr hon."
Llun: WTOL
