Newyddion S4C

Gwrthod cais Dŵr Cymru am gael gynnal partion ger cronfa

11/01/2023
Cronfa Llandagfedd. Llun gan Christine Johnstone (CC BY-SA 2.0).
Cronfa Llandagfedd

Mae Dŵr Cymru wedi methu a chael cymeradwyaeth i gais er mwyn cael cynnal partïon a digwyddiadau mewn man prydferth warchodedig.

Roedd y cwmni ddim-er-elw wedi gobeithio ymestyn oriau agor, a defnydd, ei ganolfan ymwelwyr a chanolfan chwaraeon dŵr yng Nghronfa Llandegfedd rhwng pentrefi Pant-teg a Llandegfedd ger y ffin sirol rhwng Torfaen a Sir Fynwy.

Mae'r lleoliad wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sef y math uchaf o warchodaeth amgylcheddol, ac mae’n hafan i bob math o adar.

Gwrthododd cynghorwyr y cais gan ddweud nad oedd modd iddyn nhw anwybyddu gwrthwynebiadau nifer o gymdeithasau, gan gynnwys y Gymdeithas Adaryddol a Chyngor Torfaen, a 300 o unigolion.

Dywedodd cynghorydd Ceidwadol Llangybi Fawr, Fay Bromfield: “Rwy’n croesawu gwelliannau Dŵr Cymru ond dydw i ddim yn teimlo eu bod am wneud digon er mwyn cynnal y safle fel un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.”

Ychwanegodd Cynghorydd Llanbadoc, Tony Kear nad oedd cyflwr afonydd Cymru yn golygu fod ganddo lawer o hyder yn Dŵr Cymru na chwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd heb wrthwynebu y cais.

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol dros Ben y Fal, Maureen Powell: “Gallai’r math yma o ddigwyddiadau gael eu cynnal yn unrhyw le, does dim rhaid eu cynnal wrth y llyn prydferth hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.