Y Torïaid yn beirniadu'r Gweinidog Iechyd am ddweud y gallai’r gwasnaeth iechyd orfod gwneud llai
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu y Gweinidog Iechyd am awgrymu y gallai’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru orfod gwneud llai yn y dyfodol.
Wrth wneud datganiad yn y Senedd, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan fod y GIG yn wynebu galw “digynsail” am wasanaethau.
“Ry’n ni’n rhannu pryder y cyhoedd bod ein gwasanaethau dan straeon eithriadol a pharhaus,” meddai.
Dywedodd serch hynny mai rhan o’r ateb oedd i’r cyhoedd newid eu hymddygiad eu hunain.
“Mae gennym ni lefelau uchel iawn o afiechyd yng Nghymru a gall pobl helpu eu hunain, gwneud mwy o ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iachach,” meddai.
“Os nad ydyn ni’n mynd i weld newidiadau mewn ymddygiad gan y cyhoedd hefyd, yna fe fyddwn ni mewn sefyllfa lle rydyn ni efallai’n cynnig llai o wasanaethau.”
Ond dywedodd y Ceidwadwyr ei fod yn “ffuantus” awgrymu mai ymddygiad y cyhoedd yn unig oedd wedi achosi’r problemau.
“Roedd methu a chwrdd â’r galw am wasanaethau iechyd yn ystod y pandemig yn anochel am arwain at ymchwydd yn y galw,” meddai’r llefarydd iechyd Russell George.
Dywedodd yn hytrach bod Llafur wedi anwybyddu galwadau am gynllun ar gyfer paratoi at y gaeaf.
“Does ryfedd fod Cymru, o dan reolaeth y Blaid Lafur, bellach yn profi'r amseroedd aros gwaethaf ym Mhrydain mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.
“Yma hefyd mae’r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf a gofnodwyd, a rhestrau aros lle mae 55,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth.”
‘Hyn a hyn’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y gallai’r gwasanaeth iechyd ganolbwyntio ar rai blaenoriaethau yn y dyfodol.
“Yr hyn rydw i wedi gofyn i’r GIG ei wneud y flwyddyn nesaf yw canolbwyntio ar bump neu chwe maes blaenoriaeth ac os gallant wneud unrhyw beth y tu hwnt i hynny, bydd hynny’n wych.
“Mae angen i ni ddeall mai dim ond hyn a hyn o arian sydd yn y system a bydd gennym ni feysydd blaenoriaeth y bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio arnyn nhw.
"A bydd hynny'n golygu penderfyniadau anodd iawn, iawn i'r byrddau iechyd hynny."