Newyddion S4C

Cyn-arlywydd Brasil yn yr ysbyty yn yr UDA

10/01/2023
Palácio de Planalto

Mae cyn-Arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro, wedi ei gludo i’r ysbyty ar ôl dechrau dioddef poen yn yr abdomen, meddai ei wraig.

Daw hyn ddiwrnod yn unig ar ôl i filoedd o’i gefnogwyr ymosod ar swyddfeydd a lleoliadau llywodraethol ym mhrifddinas Brasil.

Yn ôl yr adroddiadau, fe gafodd Mr Bolsonaro ei gludo i ysbyty yn Florida yn yr UDA ddydd Llun.

Cafodd y cyn-arlywydd ei drywanu yn 2018 ac ers hynny mae wedi cael trafferthion gyda phoen yn yr abdomen o bryd i’w gilydd.

Ar ei chyfrif Instagram ddydd Llun, cadarnhaodd Michelle Bolsonaro fod ei gŵr yn derbyn goruchwiliaeth meddygol yn America, oherwydd anghysur yn yr abdomen.

Dywedodd ffynhonnell sy’n agos at y teulu nad yw ei gyflwr “yn peri pryder”, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.
 
Gadawodd Mr Bolsonaro Brasil am yr Unol Daleithiau tua 10 diwrnod yn ôl, pan wrthododd gymryd rhan yn y broses o drosglwyddo pŵer i’r Arlywydd Luiz Inácio Lula da Silva yr wythnos diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.