Newyddion S4C

Gemma Grainger yn arwyddo cytundeb newydd fel rheolwr Merched Cymru

09/01/2023

Gemma Grainger yn arwyddo cytundeb newydd fel rheolwr Merched Cymru

Mae Gemma Grainger wedi arwyddo cytundeb newydd fel rheolwr Merched Cymru.

Bydd y cytundeb yn golygu bydd Grainger yn parhau fel hyfforddwr trwy rowndiau rhagbrofol pencampwriaethau UEFA EURO 2025 a Chwpan y Byd FIFA 2027.  

Mae’r estyniad yn gytundeb Grainger yn dod ar ôl flwyddyn lwyddiannus i Gymru yn 2022, lle wnaeth record ar ôl record cael ei dorri.

Gwelwyd torf o 4,553 wrth i Gymru herio Ffrainc ym Mharc y Scarlets yn Ebrill 2022, oedd yn record ar y pryd.

Ond chwalwyd y record hynny wrth i dorf o 15,200 o bobl gwylio’r fuddugoliaeth yn y gêm ail-gyfle yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Apwyntiwyd Grainger fel rheolwr ym mis Mawrth 2021, ac fe ddaeth Cymru o fewn drwch blewyn i gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro gyntaf, gan golli yn amser ychwanegol yn y rownd derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2023.

Balchder

Wrth drafod y cytundeb, dywedodd Grainger: “Rwy’n hynod falch i arwyddo cytundeb newydd a paratoi’r taith yn gweithio gyda’r grŵp arbennig o chwaraewyr sydd yng Nghymru. Ni yn grŵp uchelgeisiol; fi fel hyfforddwr, y chwaraewyr, a’r Gymdeithas, felly mae’r dyfodol yn edrych yn dda.

“Ni eisiau cario ymlaen y momentwm o’r ymgyrch diwethaf, ar ac oddi ar y cae, dros y flwyddyn newydd ac mewn i’r ymgyrchoedd nesaf.”

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney: “Ni wedi gwneud camau enfawr efo’n Tîm Merched Cenedlaethol a nawr byddwn ni’n rhoi’r ffocws ar gyrraedd pencampwriaethau UEFA EURO 2025 a Chwpan y Byd FIFA yn 2027.

Bydd Cymru yn dechrau’r flwyddyn newydd wrth deithio i Sbaen ym mis Chwefror, i chwarae yn erbyn y Philippines, Gwlad yr Iâ a’r Alban yng Nghwpan Pinatar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.