Ail dai: Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddeddf eiddo cyn rali ddydd Sadwrn
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y llywodraeth i reoli prisiau rhent er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail dai.
Daw'r galwad fel rhan o gynlluniau newydd y gymdeithas ar gyfer Deddf Eiddo i Gymru.
Mae'r gymdeithas wedi cyhoeddi ei bod yn newid pwyslais ei hymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth' o ymgyrchu yn erbyn gormodedd o ail-gartrefi i ganolbwyntio ar Ddeddf Eiddo "gyflawn”.
Fe fydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno fel rhan o rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn.
Dywedodd Cai Phillips, myfyriwr 20 oed a fydd yn cyflwyno'r ddeddf yn y rali, y byddai Ddeddf Eiddo yn mynd i'r afael â problemau "ehangach" yr argyfwng ail dai.
"Bydda i'n chwilio am rywle i fyw yn y sir yn y dyfodol agos ond does dim posib i'r mwyafrif o bobl ifanc y sir gystadlu gyda phobl gyfoethocach sy'n symud i'r sir i fyw yn barhaol tra bod marchnad agored am dai," meddai.
"Byddwn felly'n troi'r pwyslais at fynnu Deddf Eiddo gyflawn a fydd yn rheoli'r farchnad, yn blaenoriaethu pobl leol, ac yn caniatáu gosod amodau lleol ar berchnogaeth tai a thir. Fel arall caiff pobl ifanc eu gorfodi allan o'u cymunedau ac ni fydd dyfodol i gymunedau Cymraeg."
Fforddiadwy
Fel rhan o'r Ddeddf Eiddo, mae Cymdeithas yr Iaith eisiau gweld cyfyngiadau o fewn y sector rhentu preifat, er mwyn sicrhau bod prisiau rhent yn fforddiadwy i bobl leol.
Mae'r gymdeithas hefyd yn galw am flaenoriaethu pobl leol wrth werthu tai, gan roi'r cyfle cyntaf i drigolion lleol neu sefydliadau cymunedol brynu neu rentu tai.
Maen nhw hefyd yn galw am sicrhau stoc tai newydd fforddiadwy a chynaliadwy a sefydlu cronfa Banc Cymunedol i alluogi pobl leol i brynu tai yn eu hardal.
Yn ôl y gymdeithas, daw'r cynlluniau fel ymateb i ffigyrau diweddar y cyfrifiad, a welodd ostyngiad yng ngharan y bobol yng Nghymru sydd yn siarad Cymraeg.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb.