Gwrthdaro yn Israel yn parhau

Gwrthdaro yn Israel yn parhau

Newyddion S4C

Wrth i densiynau gynyddu yn Israel, mae'r gwrthdaro yn parhau, nid yn unig drwy ymosodiadau awyrlu ond ar y strydoedd hefyd. 

Mae Arlywydd Israel, Reuven Rivlin, wedi disgrifio'r sefyllfa fel "rhyfel cartre' dibwrpas", ac mae'r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi galw ar y trais i ddod i ben. 

Dywed fod lluoedd Israel wedi ymgynnull ar ffin Gaza wrth i filwriaethwyr Hamas barhau ag ymosodiadau rocedi. 

Yn ôl Sara Idan, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ond yn byw yn Jerwsalem, mae'r sefyllfa yn "hollol ofnadwy".

"Dydd Llun oedd serien di mynd bant pan o'n ni mas gyda'r plant," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"Felly odd rhaid i ni rhedeg i'r adeilad agosa'. 

"Mae'r ymladd sy' wedi bod yn y strydoedd yn sawl dinas lle yn y gorffennol odd Iddweon a Palesteniaid yn byw yn weddol hapus gyda'i gilydd.

"A nawr ma' lot o ymladd di bod o'r ddwy ochr, mae Israelis di cael i brifo a Palesteiniaid hefyd a mae jyst yn hollol ofnadwy."