Newyddion S4C

Chwilio yn parhau am ail fenyw mewn afon ym Mhowys

08/01/2023
Ystradfellte

Mae'r chwilio yn parhau yn yr afon ger Rhaeadr Ystradfellte dros y penwythnos am fenyw sydd wedi bod ar goll ers dydd Mercher.

Yn ôl Tîm Achub Mynydd y Bannau Canolog mae lefel a chyflymder y dŵr yn achosi trafferthion ond maen nhw'n gwneud y gorau o dan yr amgylchiadau anodd.

Maen nhw'n derbyn cymorth gan swyddogion a chŵn chwilio Heddlu Dyfed-Powys yn ogystal â wardeniaid o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cafodd corff menyw arall ei ddarganfod yn yr afon ddydd Iau yn dilyn y digwyddiad.

Dywed yr heddlu bod teuluoedd y ddwy fenyw yn derbyn cefnogaeth. 

Llun: Tîm Achub Mynydd y Bannau Canolog

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.