Newyddion S4C

Mahsa Amini: Ysgrifennydd Tramor yn beirniadu dienyddiad dau ddyn yn Iran

07/01/2023
S4C

Mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi beirniadu Iran am ddienyddio dau ddyn mewn cysylltiad â phrotestiadau ar draws y wlad yn sgil marwolaeth Mahsa Amini.

Roedd James Cleverly yn annog Tehran i "ddiweddu'r terfysg yn erbyn ei bobl ei hun", gydag o leiaf pedwar dyn wedi eu dienyddio ers i brotestiadau ddechrau ym mis Medi.

Dywedodd barnwriaeth Iran fod Mohammad Karami a Mohammad Hosseini wedi eu cael yn euog o ladd gwirfoddolwr para filwrol yn ystod protest.

Ond roedd eu treialon wedi digwydd yn gyflym a thu ôl i ddrysau caeedig.

Dywedodd Mr Cleverly: "Mae dienyddiadau Mohammad Mahdi Karami a Seyed Mohammad Hosseini gan wladwriaeth Iran yn ffiaidd.

"Mae'r DU yn gwrthwynebu'r gosb farwolaeth yn gryf dan unrhyw amgylchiadau."

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod o leiaf 16 o bobl wedi eu dyfarnu i farwolaeth ers dechrau'r protestiadau pan fu farw Ms Amini, 22, ar ôl cael ei harestio gan heddlu moesoldeb Iran.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.