Newyddion S4C

Andrew RT Davies yn beirniadu 'ymosodiad cywilyddus' ar swyddfa AS

07/01/2023
Simon Hart swyddfa

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi beirniadu "ymosodiad cywilyddus" ar swyddfa AS Ceidwadol.

Cafodd graffiti ei roi ar ffenestr swyddfa Simon Hart yn Hendy-gwyn oedd yn cynnwys y llythrennau "Tories Outt".

Mae Mr Hart yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Dywedodd Mr Davies: "Os ydych yn ymddwyn fel hyn, rydych yn colli'r ddadl.  Ni ddylai Simon orfod dioddef hyn.  Ac yn sicr ni ddylai ei dîm.  Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd."

Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Simon Hart, sydd bellach yn Brif Chwip yn llywodraeth Rishi Sunak y byddai'r fandaliaeth yn "creu anghyfleustra".

Ychwanegodd Mr Hart ei fod yn gobeithio y byddai camerâu cylch cyfyng yn adnabod y sawl oedd yn gyfrifol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.