
Dirwasgiad eleni am fod 'yn waeth na chyfnod Covid'

Dirwasgiad eleni am fod 'yn waeth na chyfnod Covid'
Fe allai’r dirwasgiad economaidd eleni fod “yn waeth na’r cyfnod Covid” yn y ffordd mae’n “bwrw pobl gyffredin a busnesau”, yn ôl economegydd.
Wrth edrych ar y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd fod angen i lywodraethau “wneud popeth” i godi hyder yn yr economi.
Mae hynny’n cael ei ategu gan berchennog garej o Gaernarfon, sy’n pryderu na fydd busnesau’n gallu goroesi’r cyfnod yma.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n rhoi "£460m mewn cymorth trethi annomestig” i helpu busnesau, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod yn gwarchod busnesau rhag costau ynni drwy raglen gwerth £18bn.
Er y pryderon, roedd nifer y siopwyr fu’n gwario ar y stryd fawr ym mis Rhagfyr yn “galonogol”, meddai cynrychiolwyr ar ran y sector masnach.
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld bydd economi'r DU yn crebachu o 1.4% yn ystod 2023, ac mae disgwyl cadarnhad swyddogol bod Prydain mewn dirwasgiad economaidd maes o law.
Gyda chwyddiant uchel a diffyg twf, mae Dr Bowen yn rhagweld blwyddyn galed a allai daro pobl yn fwy nag argyfyngau economaidd 2008 a’r pandemig.
Mae’n nodi bod sawl peth yn dylanwadu ar arafwch yr economi, gan gynnwys ffactorau allanol fel y rhyfel yn Wcráin a ffactorau mewnol fel Brexit a phenderfyniadau gwleidyddol.
“Rwy’n credu bod hyn yn wahanol iawn ar hyn o bryd oherwydd bod ‘na gyfuniad o ffactorau gwahanol yn arwain at y sefyllfa economaidd anodd ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae hyn yn waeth na chyfnod Covid, efallai, oherwydd mae’n mynd i fwrw busnesau a phobl gyffredin o ran costau sy’n angenrheidiol iddyn nhw fel rhenti, ynni, bwyd a diod a phethau mae pobl angen eu prynu o ddydd i ddydd.”
Ychwanegodd: “Mae eisiau gwneud beth bynnag sydd o fewn grym y llywodraeth i helpu hybu’r economi a gwneud yn siŵr bod yr economi yn dechrau codi eto.”

'Diffyg staff'
Yng Nghaernarfon mae Kevin Williams yn rhedeg garej sy’n trwsio ceir ac hefyd yn eu gwerthu.
Mae ei fusnes dan bwysau o sawl ongl.
“‘Dan ni i gyd yn llawn yn y gweithdy, y broblem sydd gen i ydy bod ‘na ddiffyg staff - technegwyr - i weithio yn gweithdy,” meddai, gan ddweud ei bod hi’n anodd dod o hyd i brentisiaid.
“Ar yr ochor werthu - oes, mae ‘na bobl yn prynu ond mae ‘na ddiffyg stoc o geir i’w gael.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n mynd i fod yn flwyddyn galed lle mae busnesau lleol angen help gen gynghorau lleol, y Senedd a Llundain.
“Heblaw ein bod ni’n cael help, dwi ddim yn meddwl bydd llawer o’r busnesau lleol yn bodoli mewn blwyddyn neu ddwy.”
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi help i bobl a busnesau trwy’r Cynllun Lliniaru Biliau Ynni, sy’n dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd llefarydd eu bod yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd, ac y bydd cyhoeddiad am becyn cefnogaeth nesaf yn cael ei gyhoeddi cyn hir.
Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru “£460m mewn cymorth trethi annomestig ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf i helpu pob busnes sy'n cael trafferthion gyda chostau cynyddol”.
Ond ychwanegodd llefarydd mai yn San Steffan mae’r grym i “ddarparu'r amddiffyniad uniongyrchol sydd ei angen yn wyneb yr argyfwng hwn”.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn “chwilio am bob cyfle i gynyddu’r cymorth sydd ar gael” i fusnesau yn y sir ac i sicrhau eu bod “yn elwa o gynlluniau a rhaglenni cyfredol.”

'Optimistig'
Er y pryderon, roedd nifer y siopwyr fu’n gwario ar y stryd fawr yn ystod mis Rhagfyr yn "galonogol", yn ôl y Consortiwm Masnach Cymreig.
Mae’r ffigwr hwnnw tua 10% yn is na 2019 - y flwyddyn cyn y pandemig - ond mae’n “welliant sylweddol”, meddai pennaeth y corff, Sara Jones.
Yn ei siop a chaffi gyferbyn â chastell Caernarfon, dywedodd Eleri Gray-Thomas ei bod yn “optimistig” er fod cwsmeriaid yn bod yn “fwy gofalus” yn eu gwariant.
“Mae pobl yn dŵad rownd y flwyddyn i Gaernarfon,” meddai.
“Mae pobl ddieithr wedi bod yn dod yn eu heidiau ar y bysus ‘ma, mae hynna’n dda. Ond ‘dan ni’n colli pobol swyddfeydd a ballu yn gwario yn lleol.
“Mewn busnes ti’n gorfod bod yn optimistig. Ond yn amlwg ‘dan ni fel pawb arall yn gorfod bod yn ofalus.”