Arbenigwyr iechyd yn rhoi cymorth i amddiffyn plant rhag salwch wrth ddychwelyd i'r ysgol
Mae arbenigwyr iechyd wedi rhoi cyngor i rieni ar sut i helpu amddiffyn eu plant rhag salwch wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol.
Y prif gyngor mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn rhoi ydy i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres, yn dilyn cynnydd mewn salwch fel ffliw.
Ychwanegodd fod ffliw a Covid-19 yn lledaenu ar lefelau uchel ar hyn o bryd ac mae cynnydd mewn achosion o'r dwymyn goch hefyd yn cael ei nodi.
Dylai plant sy'n sâl gyda thwymyn aros gartref nes eu bod yn teimlo'n well ac mae'r gwres ar ben, meddai'r arbenigwyr.
'Golchi dwylo'
Mae'r Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod gwneud y pethau syml fel golchi dwylo yn gallu atal lledaenu germau.
“Mae hefyd yn bwysig atgoffa plant am bwysigrwydd golchi eu dwylo i osgoi lledaenu germau a dal peswch a thisian mewn hancesi papur. Dylai oedolion hefyd geisio aros gartref pan fyddant yn sâl. Os oes rhaid iddynt fynd allan pan fyddant yn sâl, mae'n syniad da gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn eraill.”
Ychwanegodd y ICC mai'r ffordd orau o amddiffyn yn erbyn dal ffliw yw i'r rhai sy'n gymwys gael y brechlyn ffliw.
Gall plant gael brechlyn ffliw am ddim. Mae hyn yn cynnwys pob plentyn mewn ysgol gynradd neu hyd at 11 oed mewn ysgol uwchradd, plant sy'n ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2022 a phlant chwe mis oed neu drosodd sydd ag unrhyw gyflyrau iechyd hirdymor sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o ffliw.