Newyddion S4C

Y Drenewydd v Y Fflint

Cipolwg ar gêm y Cymru Premier JD nos Wener

Sgorio 06/01/2023

Yn dilyn canlyniadau’r gemau canol wythnos mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf wedi dod i ben yng nghynghrair y Cymru Premier JD gyda Phen-y-bont a’r Drenewydd yn sicrhau’r ddau safle olaf yn yr hanner uchaf.

Mae tair rownd o gemau yn weddill yn rhan gynta’r tymor, ond bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn dechrau troi eu sylw at geisio hawlio lle’n Ewrop, tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i gael aros yn y gynghrair.

Y Fflint (9fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45

Mae’n gaddo i fod yn dipyn o frwydr i osgoi’r cwymp eleni gan ei bod hi’n eithriadol o dynn yn rhan isa’r tabl gyda dim ond chwe phwynt yn gwahanu Hwlffordd (7fed) ac Aberystwyth (11eg).

Ar ben hynny, mae Hwlffordd wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Fflint ac Aberystwyth, ac felly mae yna bum clwb â chyfle gwirioneddol o orffen yn y 7fed safle a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Dyw’r Fflint ond dau bwynt uwchben Aberystwyth, ond mae’r Sidanwyr ar rediad o dair gêm gartref heb golli yn dilyn canlyniadau cadarnhaol yn erbyn Met Caerdydd (1-1), Caernarfon (2-1) a Chei Connah (0-0).

Ar ôl colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd, mae Aberystwyth wedi cadarnhau eu lle yn yr hanner isaf am yr wythfed blwyddyn yn olynol.

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, ond y Gwyrdd a’r Duon oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Hydref (Aber 2-1 Fflint).

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ➖❌✅➖❌
Aberystwyth:❌❌❌❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.