Newyddion S4C

Hyfforddiant gwrth-lygredigaeth wedi i dair gwarchodwraig yng Ngharchar y Berwyn gael perthynas gyda charcharorion

ITV Cymru 04/01/2023
S4C

Mae tair gwarchodwraig yng ngharchar mwyaf y Deyrnas Unedig a Chymru wedi cael eu carcharu am gael perthynas anghyfreithlon gyda charcharorion.

Roedd Jennifer Gavan, 27, Ayshea Gunn, 27, ac Emily Watson, 26, i gyd wedi cael eu carcharu o fewn y tair blynedd diwethaf am gael perthynas gyda charcharorion Carchar y Berwyn yn Wrecsam. 

Mae eu dedfrydau wedi arwain at lansio hyfforddiant gwrth-lygredigaeth yn y carchar i fynd i’r afael â’r broblem. 

Fe gafodd Gavan o Lai, Wrecsam, ei charcharu am wyth mis fis Rhagfyr ar ôl pledio’n euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020.

Fe wnaeth hi dderbyn £150 i smyglo ffôn symudol i’r carcharor, Alex Coxon, 25, oedd hi wedi cael ei chyhuddo o gael perthynas anaddas ag ef.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: “Dwi’n mynegi fy syndod bod gweithwyr yng Ngharchar y Berwyn EF yn ysgrifennu i’w chefnogi a’u bod yn feirniadol o weithwyr eraill ym Merwyn. 

“Dwi’n meddwl bod hynny’n achos ddylai gael sylw’r awdurdodau yn y carchar." 

Image
S4C

'Dim oedi cyn cosbi'

Daeth eu perthynas flwyddyn ar ôl i swyddog arall, Ayshea Gunn, gael perthynas â Khuram Razaq, 29, oedd yn treulio 12 mlynedd dan glo am gynllwynio i ddwyn.

Fe gafodd Gunn ei charcharu am flwyddyn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yn 2019. 

Yn yr un flwyddyn, fe gafodd Emily Watson ei charcharu am berfformio gweithred rywiol ar garcharor yn ei gell Ddydd Nadolig.

Clywodd y llys bod Watson wedi gwirioni ar y carcharor John McGee, oedd yn treulio 8 mlynedd yn y carchar am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. 

Fe wnaeth Watson dreulio cymaint o amser gyda John McGee yn y carchar nes i’r staff ddechrau mynd yn amheus a chychwyn ymchwiliad. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Mae mwyafrif sylweddol o staff y Gwasanaeth Carchardai yn weithgar ac ymroddgar a fyddwn ni ddim yn oedi cyn cosbi’r rhai sy’n torri’r rheolau.”

Mae hyfforddiant gwrth-lygredigaeth wedi cael ei lansio i dros 500 o aelodau staff y carchar. 

Mae gwell diogelwch i’r giatiau wedi cael ei gyflwyno mewn ymgais i stopio gwarchodwyr rhag smyglo eitemau gwaharddedig tu ôl i’r bariau. 

Mae staff carchardai yn cael ei archwilio bob deng mlynedd, ac mae’r gwasanaeth yn treialu archwiliadau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer rolau o “risg uwch”, megis swyddogion carchar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.