Cyngor yng Nghymru yn cael £6m yn ôl gan gyngor yn Lloegr sydd bron â mynd yn fethdalwr
Mae benthyciad o £6m gan gyngor yn Lloegr sydd bron â mynd yn fethdalwr wedi ei ddychwelyd i gyngor yng Nghymru.
Yn ystod yr haf y llynedd daeth cadarnhad bod Cyngor Bwrdeistref Thurrock yn Essex yn ysgwyddo dyled o £1.5 biliwn.
Yna daeth i’r amlwg ym mis Hydref y llynedd fod Cyngor Blaenau Gwent wedi benthyg £6m i gyngor Thurrock yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
Ym mis Medi apwyntiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Gyngor Sir Essex i gynnal Cyngor Thurrock.
Roedd disgwyl i’r benthyciad £6m gael ei dalu yn ôl i Gyngor Blaenau Gwent ar ddiwedd Tachwedd 2022.
Ond roedd cynghorwyr o grwpiau Llafur sy’n rheoli’r cyngor a’r grŵp annibynnol gwrthwynebol wedi codi pryderon na fyddai’r arian yn cael ei ad-dalu.
Ar y pryd dywedodd penaethiaid cyllid Blaenau Gwent fod ganddyn nhw “gadarnhad ysgrifenedig” gan Thurrock y byddai'r arian yn cael ei ad-dalu.
Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Steve Thomas: “Mae Thurrock wedi ad-dalu’r benthyciad ar Dachwedd 30.”
Ym mis Tachwedd roedd y cwmni ynni adnewyddadwy yr oedd Thurrock wedi buddsoddi ynddo wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr cyn ad-dalu £655m iddyn nhw.
Llun: Steve Thomas, arweinydd Cyngor Blaenau Gwent