Newyddion S4C

Darganfod corff cyn-olygydd BBC Radio Cymru Aled Glynne Davies

04/01/2023
Aled Glynne Davies

Mae teulu cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies, wedi cadarnhau fod ei gorff wedi ei ddarganfod.

Roedd wedi bod ar goll ers Nos Galan ac roedd yr heddlu a grwpiau o wirfoddolwyr wedi bod yn chwilio amdano ers hynny.

Mewn datganiad ar Instagram, fe ddiolchodd ei fab Gruffudd ar ran ei deulu i bawb am eu hymdrech.

"Mae'n drist iawn gynnon ni gyhoeddi bod Dad wedi ei ddarganfod yn yr afon," meddai.

"Amser i ni gyd drio ymlacio rwan. Gadewch i ni ddathlu bywyd Dad x".

Roedd Mr Davies yn Olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Cyn hynny, roedd yn Olygydd Newyddion BBC Radio Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd ar raglen Newyddion S4C.

Arweiniodd y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf erioed y BBC – BBC Cymru’r Byd.

Fe sefydlodd y cwmni Goriad Cyfyngedig yn 2007, sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu a radio a threfnu gweithdai a chyrsiau.

Roedd hefyd yn feirniad radio a theledu profiadol gan feirniadu rhaglenni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru, Gwobrau Cyfryngau Cymru a’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu nad yw ei gorff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.

Dwedodd Uwch-arolygydd Michelle Conquer: “Rydym ni’n parhau i gefnogi teulu Aled ar yr adeg drist yma a bydd ein hymchwiliadau yn parhau er mwyn deall amgylchiadau'r farwolaeth.”

Mae'n gadael ei wraig, Afryl, dau o blant, Gwenllian a Gruff, a dau o wyrion, Deio a Casi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.