Gostwng cyflymder i 20mya yn hollti barn

Gostwng cyflymder i 20mya yn hollti barn
Bydd y cyflymder uchaf i yrwyr mewn ardaloedd poblog yn gostwng o drideg i ugain milltir yr awr yng Nghymru, ym mis Medi 2023.
Ond yn yr ardaloedd lle mae'r newid eisoes mewn grym, cymysg yw'r farn am ostwng y cyflymder.
Ers blwyddyn a hanner, mae pentref Llandudoch, Sir Benfro wedi bod yn rhan o arbrawf i ostwng y cyfyngiad cyflymder i 20 mya.
'Teimlo mwy saff'
Mae Mike James yn gynghorydd lleol, ac mae e o'r farn bod pobl yn teimlo'n fwy diogel ers i'r cyflymder ostwng.
"Ma' pobl yn teimlo bod nhw'n mwy saff yn cerdded, ma' nhw'n gwbod amser mae'n dod i groesi'r ffordd ma'r ceir yn gyrru yn araf nawr.
Mae Terwyn Tomos yn byw yn lleol, ac yn croesawu'r newid.
"Allai'm siarad dros bentrefi eraill ond yn bendant ma' fe 'di gweithio yma.
"Bysen i'n meddwl bydde fe'n gweithio ymhobman. Bendant ma fe wedi arafu traffic lawr."
Ond i eraill yn lleol, fel Mandy Walters, mae amheuon am y cyfyngiad newydd.
"Fi ddim yn lico fe. Ma fe'n rhy araf."
Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am y polisi. Mae e'n ffyddiog y daw gyrwyr a chymunedau yn gyfarwydd â’r newid yn gyflym.
"Dwi'n credu mewn deg mlynedd o nawr, bydd pobl yn disgwl yn ôl, a meddwl bod hyn yw newidiad hollol synhwyrol.
"I rai pobl, bydd 'na gost... ond i mwyafrif o pobl, mae cyrraedd rhywle tua munud yn hwyr, yn neud dim gwahaniaeth o gwbl i'r economi."