Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cyhoeddi 'digwyddiad critigol'
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd wedi cyhoeddi "digwyddiad critigol mewnol" oherwydd pwysau ar y gwasanaeth.
Dyma'r eildro i'r bwrdd iechyd gyhoeddi rhybudd o'r fath yn yr wythnosau diwethaf, gyda'r cyntaf ar 19 Rhagfyr.
Mae digwyddiad critigol yn cael ei gyhoeddi gan ymddiriedolaethau iechyd pan eu bod o dan bwysau eithriadol. Mae'n golygu na all yr ysbytai weithredu fel yr arfer.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd eu bod yn wynebu pwysau enfawr mewn nifer o adrannau ar draws eu hysbytai, yn enwedig yr unedau achosion brys.
Ychwanegodd fod hynny, yn ogystal â diffyg gwelyau yn eu hysbytai a phrinder staff "yn arwain at oedi hir cyn i gleifion gael eu gweld."
Gohirio apwyntiadau
Mae apwyntiadau cleifion ar gyfer dydd Mawrth, 3 Ionawr wedi cael eu gohirio, ac eithrio apwyntiadau brys.
Yn ôl y bwrdd iechyd, dylai cleifion sydd ag apwyntiad ar 4 Ionawr gymryd y bydd yn digwydd.
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "ymddiheuro’n ddiffuant i bawb, a byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â chleifion heddiw i ail-drefnu apwyntiadau cyn gynted â bo modd."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cleifion sydd yn ddigon iach i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Yn ogystal, mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i ymweld â gwefan GIG 111 Cymru yn y lle cyntaf i gael cyngor am y gwasanaeth mwyaf addas, cyn mynd i'r ysbyty.
Mae byrddau iechyd ar hyd a lled Cymru hefyd yn rhybuddio fod eu gwasanaethau o dan bwysau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe wedi dweud wrth bobl i beidio â mynd i Uned Achosion Brys Ysbyty Treforys oni bai bod yr anaf neu afiechyd yn peryglu bywyd.
Wrth ymateb i ddigwyddiad critigol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod pwysau mawr ar y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae'r GIG yn wynebu galw enfawr y gaeaf hwn gan ddelio ag achosion o'r ffliw a Covid. Bydd penderfyniadau ynglŷn â staffio yn cael eu gwneud er mwyn lleihau'r risg, gyda ffocws ar achub bywydau, a bydd gofal oes yn parhau i gael ei ddarparu.
"Er mwyn lleihau pwysau ar ein gwasanaethau, rydym yn gofyn i bobl sydd â symptomau tebyg i'r ffliw i gadw draw o ysbytai heblaw bod yr ymweliad yn angenrheidiol ac yn annog pobl i gael brechiad rhag y ffliw.
"Mae unrhyw un sydd ag anafiadau nad yw'n peryglu bywyd yn cael eu hannog i ddefnyddio gwefan GIG Cymru."