Newyddion S4C

Cyhuddo dau ddyn o lofruddio dyn mewn clwb nos yn Birmingham

01/01/2023
Marwolaeth Birmingham

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn mewn clwb nos yn Birmingham. 

Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.

Mae Kami Carpenter, 21, a Remy Gordon, 22, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Mr Fisher, a byddant yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Birmingham ddydd Llun. 

Cafodd dyn 22 oed arall a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ei ryddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau. 

Daw hyn wedi i drwydded clwb nos Crane gael ei wahardd yn dilyn honiadau fod yna "fethiannau rheoli sylweddol" wedi digwydd yno ar noson y llofruddiaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.