Newyddion S4C

Drakeford Senedd

'Blwyddyn anodd' ar ben medd Mark Drakeford ar ddiwedd 2022

NS4C 31/12/2022

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud bod "blwyddyn anodd" ar ben ar ddiwedd 2022.

Yn ei anerchiad blwyddyn newydd, mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio at ryfel Rwsia yn erbyn Wcráin lle mae miloedd o bobl wedi eu lladd.

Mae'n "fwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd" yn wyneb yr argyfwng costau byw, yn ôl y prif weinidog.

Ond mae hefyd yn dweud fod pobl wedi bod "mor barod i helpu eraill" yn ystod y flwyddyn.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud na ddylai'r llywodraeth osgoi archwiliad o'r penderfyniadau y gwnaethon nhw yng Nghymru yn ystod y pandemig.

Yn ôl Mr Davies, y foment fwyaf "cofiadwy" mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yn 2022 oedd pan wnaeth Mark Drakeford "goll ei dymer" yn siambr y Senedd.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, sydd wedi bod yn ei rôl ers mis Hydref wedi dweud na fydd holl broblemau'r wlad yn diflannu yn 2023.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.