Newyddion S4C

Y Fonesig Vivienne Westwood wedi marw yn 81 oed

30/12/2022
vivienne westwood

Mae'r Fonesig Vivienne Westwood wedi marw yn 81 oed. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei theulu fod y dylunydd ffasiwn byd enwog wedi marw yn "heddychlon a gyda ei theulu ar 29 Rhagfyr yn ne Llundain".

Daeth i'r amlwg yn y byd ffasiwn yn y 70au gyda ei dyluniadau ffasiwn arloesol cyn mynd ymlaen i wisgo rhai o enwau mwyaf y byd.

Cafodd ei gwneud yn fonesig yn 2006 am ei gwasanaethau i ffasiwn. 

Yn ogystal â'r byd ffasiwn, roedd y Fonesig y angerddol am ymgyrchu am faterion megis llygredd, newid hinsawdd a chefnogi sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange.

Ychwanegodd ei theulu fod "y byd angen pobl fel Vivienne i wneud newid er gwell".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.