Newyddion S4C

Galaru cenedlaethol ym Mrasil wedi marwolaeth Pele yn 82 oed

30/12/2022
Pele

Bydd tri diwrnod o alaru cenedlaethol ym Mrasil yn dilyn marwolaeth un o chwaraewyr pêl-droed enwocaf y byd, Edson Arantes do Nascimento, sy’n fwy adnabyddus fel Pele, yn 82 oed.

Cadarnhaodd ei asiant ei fod wedi marw yn yr ysbyty nos Iau yn dilyn dros flwyddyn o frwydro yn erbyn canser y coluddyn.

Cyhoeddodd Arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro y byddai yna dridiau o alaru cenedlaethol yn dilyn ei farwolaeth ddydd Iau. 

Cafodd Pele ei eni yn Brasil, ac fe ddechreuodd chwarae i glwb Santos pan oedd yn 15 oed, cyn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad pan oedd yn 16 oed.

Gyrfa ryngwladol gampus 

Chwaraeodd ran hollbwysig wrth i'w wlad ennill Cwpan y Byd 1958, gan sgorio yn erbyn Cymru ar ei ffordd i ennill y gystadleuaeth.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol enillodd Cwpan y Byd dair gwaith, yn 1958, 1962 ac 1970, yr unig chwaraewr erioed i wneud hynny.

Chwaraeodd yn yr Unol Daleithiau hefyd gyda'r New York Cosmos, cyn ymddeol yn 1977.

Sgoriodd 757 gôl mewn 831 gêm yn ystod ei yrfa, er bod ei gyn-glwb Santos yn honni ei fod wedi sgorio'n agosach i 1,000 o goliau.

Mae'n cael ei adnabod fel un o'r chwaraewyr gorau erioed i gamu ar y cae pêl-droed, ac wedi bod yn rhan o dimau mwyaf eiconig y cyfnod, a hynny gyda Brasil yn yr 70au cynnar.

'Y chwaraewr gorau'

Mae rhai o sêr y byd pêl-droed wedi rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Syr Geoff Hurst: "Newyddion trist am Pele, y chwaraewr gorau i mi erioed chwarae yn erbyn ac yn ddyn caredig iawn. Bydd e byth yn cael ei anghofio."

Mae Gary Lineker wedi dweud ei fod yn rhan allweddol o hanes pêl-droed.

"Un o'r peldroedwyr mwyaf dwyfol a'r dynion mwya' llon. Chwaraeodd gêm mai ond rhai wedi dod yn agos i. Mae e wedi ein gadael ond bydd yn rhan o anfarwoldeb pêl-droed am byth."

Ychwanegodd Bale at y llu o deyrngedau i Pele gan ddweud ei fod yn un o "gewri'r gêm ac yn rheswm bod llawer ohonom yn caru pêl-droed."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.