Newyddion S4C

Biliau ynni: Sut fydd y rheolau'n effeithio ar wahanol ardaloedd yn y Flwyddyn Newydd?

ITV Cymru 01/01/2023
S4C

Bydd disgwyl i rai aelwydydd dalu ychydig mwy o bunnoedd y mis am eu biliau ynni yn ddyledus i gostau newydd fydd yn dod i rym ddydd Sul.

Bydd y gwahaniaethau yn amrywio yn dibynnu ar le yn y wlad mae pobl yn byw a sut maen nhw’n talu am nwy a thrydan. 

Ond sut yn union bydd gwahanol ardaloedd yn y DU yn cael eu heffeithio gan y newidiadau yn y rheolau?

Pa newidiadau sydd i’w disgwyl?

Bydd trigolion yng Ngogledd Cymru ac ardal Glannau Merswy yn wynebu’r cynnydd mwyaf yn eu biliau ynni ac nid trwy ddebyd uniongyrchol. 

Mae disgwyl i’w biliau godi yn fwy na £5 y mis rhwng Ionawr ac Ebrill.

Bydd biliau hefyd yn gostwng ar gyfer rhai aelwydydd.  Bydd y rheiny sy’n byw yng Ngogledd Lloegr yn debygol o dalu tua £3.90 yn llai'r mis o ddydd Sul.

Mae’r newidiadau yn cael eu gwneud i’r pris mae cyflenwyr ynni yn codi fesul uned o nwy a thrydan maen nhw’n eu cyflenwi. 

Pryd mae’r newidiadau hyn yn dod mewn i rym?

Bydd y newidiadau hyn yn dod mewn i rym ddydd Sul ar ddiwrnod cynta'r Flwyddyn Newydd ac yn para tan ddechrau Ebrill. 

O gymharu ag addasiadau sylweddol diweddar i faint mae pris ynni Llywodraeth y DU yn sicrhau, mae’r newidiadau yn rhai bach.

Mae’r costau misol yn cael eu cyfrif yn seiliedig ar faint mae aelwyd gymedrol yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn - 4,200 uned o drydan a 12,000 uned o nwy -  a chymryd bod y defnydd hwnnw yn cael ei wasgaru’n gyfartal ar draws y flwyddyn. 

Gan fod pobl yn defnyddio mwy o nwy yn ystod y gaeaf, mae’r ffigyrau gwirioneddol yn debygol o fod rhywfaint yn fwy.

Pwy fydd yn talu mwy?

Bydd pobl sy’n talu ar gredyd arferol, sy’n golygu eu bod yn derbyn anfoneb bob mis neu chwarter blwyddyn ac sydd ddim yn talu debyd uniongyrchol, yn cael eu taro waethaf gan y newidiadau. 

Mae disgwyl i’w biliau godi tua £3.90 y mis ar gyfartaledd, a bydd hyn yn amrywio o tua £2.60 yng Ngogledd Lloegr i £5.60 yng Nglannau Merswy a Gogledd Cymru. 

Bydd cwsmeriaid sy’n talu o flaen llaw yn gweld biliau yn cynyddu £1.50 ar gyfartaledd, tra bod y rheiny trwy ddebyd uniongyrchol yn gweld cynnydd cymedrol o ddwy geiniog yn unig.

Mae’r system yn gweithio’n wahanol i gwsmeriaid sydd â math penodol o dariff, megis Economy 7. 

Yn ôl Llywodraeth y DU, ar gyfer y cwsmeriaid hyn, “mae gan gyflenwyr hyblygrwydd i gynnig gostyngiadau sy’n amrywio ychydig i’r cyfraddau unigol o fewn y tariff, sy’n helpu i gydbwyso gostyngiad cyfraddau’r dyddiau drutaf â’r cyfraddau trydan rhatach yn y nos.

"Bydd ymagwedd pob cyflenwr i’r sefyllfa yn wahanol.”

Mae’r cap prisiau Ofgem o hyd wedi cael ei osod ar lefelau ychydig yn wahanol yn seiliedig ar le mae rhywun yn byw a sut maen nhw’n talu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.