Newyddion S4C

Rhaw codi baw a brwsh 'ymysg yr anrhegion Nadolig gwaethaf'

29/12/2022
Coeden Nadolig

Mae rhaw codi baw a brwsh, siocledi a gwin heibio'u dyddiad a diaroglydd wedi'i ddefnyddio, ymhlith rhai o'r anrhegion Nadolig gwaethaf i'w derbyn y llynedd, yn ôl arolwg sydd newydd ei gyhoeddi.

Cynhaliodd cwmni Which? arolwg o bron i 1,800 o bobl a oedd newydd dderbyn anrhegion Nadolig a chanfod bod chwarter (24%) o'r farn iddyn nhw dderbyn anrheg diangen neu anaddas adeg Nadolig 2021.

Ymhlith yr enghreifftiau anaddas, roedd potel o fodca a gafodd ei rhoi yn anrheg i ddynes feichiog. 

Penderfynodd bron i chwarter (24%) o'r rhai a gafodd eu holi, i gael gwared â'r anrhegion diangen, tra bod un o bob chwech (15%) wedi eu cyfnewid mewn siop. 

Yn ôl yr arolwg, llwyddodd 29% o fenywod i ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eu hanrhegion siomedig o gymharu â 18% o ddynion.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.