Achub pedwar dyn o un o fynyddoedd mwyaf peryglus Eryri
Cafodd pedwar person eu hachub o un o fynyddoedd mwyaf peryglus Eryri ar Ŵyl San Steffan.
Dywedodd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen eu bod nhw wedi cael eu galw wedi i bedwar dyn fethu â chyrraedd copa mynydd Tryfan cyn iddi dywyllu.
Fe benderfynodd y grŵp droi yn ôl am adref, ond gan mai dim ond dau dortsh a Google Maps oedd ganddyn nhw, roedd yn rhaid iddyn nhw fynd lawr y mynydd ar hyd llwybr gwahanol.
Yn y diwedd, fe wnaethon nhw lithro i lawr un ardal o'r mynydd sy'n cael ei adnabod fel Nor Nor Gully ac fe aeth 5 aelod o'r tîm achub i chwilio amdanynt.
Yn sgil y pergyl o ddisgyn, cafodd y pedwar dyn eu harneisio yn ogystal â chael helmed a dillad cynnes cyn iddyn nhw gael eu hebrwng i lawr y mynydd gan y tîm achub.
Wedi i dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen rannu'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, mae nifer wedi beirniadu penderfyniadau'r pedwar dyn.
Er hyn, fe wnaeth y tîm achub eu hamddiffyn drwy ddweud fod "y mwyafrif o'r sylwadau wedi anghofio eu bod nhw wedi gwneud nifer o bethau da hefyd.
"Fe wnaethon nhw benderfyniad cynnar i roi'r gorau i'w bwriad nhw o gyrraedd y copa er mwyn dechrau i lawr y mynydd.
"Fe wnaethon nhw stopio a galw am help."
Llun: Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen