Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn a gafodd ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham

27/12/2022
Marwolaeth Birmingham

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 23 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd Cody Fisher ei anafu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45. 

Bu farw hanner awr yn ddiweddarach.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd aelod o'i deulu bod eu calonnau wedi torri: "Rydw i wedi colli fy ffrind gorau. Mae fy nheulu a minnau yn gofyn am breifatrwydd a pharch yn ystod y cyfnod torcalonnus yma."

Dywedodd yr heddlu fod ei deulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbennig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.