Newyddion S4C

Ysgrifennydd Cymru wedi 'gwrthod y swydd' pan gafodd ei chynnig gyntaf

Newyddion S4C 29/12/2022

Ysgrifennydd Cymru wedi 'gwrthod y swydd' pan gafodd ei chynnig gyntaf

Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi dweud iddo wrthod y swydd pan gafodd ei chynnig am y tro cyntaf.

Mae AS Ceidwadol Mynwy yn dweud iddo gael cynnig y swydd y noson cyn i Boris Johnson gyhoeddi y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn Brif Weinidog, ynghanol ymddiswyddiadau torfol o'r llywodraeth.

Cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Simon Hart, ei ymddiswyddiad ei hun ar Twitter am 22:33 ar yr un noson.

Dywedodd Mr Davies fod y penderfyniad yn un "anodd" ond mai "parch rhanddeiliaid yng Nghymru" oedd yn bwysig.

Wrth gofio noson y 6ed o Orffennaf, cyn ymddiswyddiad Boris Johnson y bore canlynol, dywedodd Mr Davies ei bod hi'n "anochel bod y llywodraeth yn mynd i ddisgyn felly mae'n bwysig derbyn hynny a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai'n cynnal y llywodraeth am ychydig ddyddiau eto".

Wrth siarad â Rhaglen y Flwyddyn 2022 ar S4C, dywedodd Mr Davies ei fod "wedi bod yn trafod" gyda Simon Hart cyn iddo ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson yn hwyr ar y 6ed o Orffennaf.

Yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd Mr Hart ymysg grŵp o weinidogion oedd wedi mynd i Rif 10 i annog Boris Johnson i roi'r gorau i'w swydd. 

Yn ôl y Financial Times, fe aeth Mr Hart â llythyr ymddiswyddo gydag ef i Downing St y prynhawn hwnnw, gan ddweud wrth y Prif Chwip, pe bai Boris Johnson yn penderfynu ildio'r awenau erbyn y bore wedyn, y dylai ddiystyru'r llythyr - ond pe bai Boris Johnson yn mynnu parhau, y byddai'n "rhaid iddo gamu o'r neilltu".

Ond yn ôl y papur, neidiodd Rhif 10 ar y blaen a chynnig swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i David TC Davies - gan annog Simon Hart i gyhoeddi ei ymddiswyddiad yn gyhoeddus ar Twitter.

Yn y llythyr ymddiswyddo hwnnw at Boris Johnson, dywedodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro fod "cydweithwyr wedi gwneud eu gorau glas yn breifat a chyhoeddus i'ch helpu i droi'r llong o gwmpas, ond gyda thristwch rwy'n teimlo ein bod wedi mynd heibio'r pwynt lle mae hyn yn bosib."

Roedd David TC Davies yn aelod yn Swyddfa Chwip y Llywodraeth ac yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru pan gafodd gynnig swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Downing Street. Mae'n dweud bod y penderfyniad i wrthod y swydd yn "anodd" ond mai dyna oedd y peth "iawn" i wneud.

"Dywedais, 'dan yr amgylchiadau, os bydd Simon yn camu i lawr, ni fyddaf yn cymryd y swydd'. Er gwaethaf y temtasiwn i gymryd lle yn y cabinet, i mi doedd e ddim yn teimlo'n iawn i weld Simon yn mynd ar bwynt o egwyddor a jyst cymryd y swydd.

"Hyd yn oed petawn i wedi gwneud hynny, dwi'n siŵr y byddai'r llywodraeth wedi disgyn beth bynnag, doeddwn i ddim yn mynd i'w achub.

"Roeddwn i hefyd yn teimlo, er mwyn gwneud y swydd hon, mae'n rhaid i chi gael parch rhanddeiliaid yng Nghymru, a sut alla i ddisgwyl i unrhyw un fy mharchu os ydw i wedi cymryd y swydd os nad oes unrhyw un arall am ei wneud.

"Pan ges i'r alwad gan Downing St, yn cynnig y swydd i mi, dywedais, yn anffodus, mae'n ddrwg iawn gen i ond alla i ddim gwneud hynny. Roedd yn anodd, ond rwy'n siŵr fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir."

Yn y pen draw, cafodd rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei llenwi ddiwrnod yn ddiweddarach gan Syr Robert Buckland, a ddywedodd mai dim ond oherwydd bod Boris Johnson wedi cytuno i ymddiswyddo y cymerodd y swydd.

Dywedodd Syr Robert fod angen llywodraeth dros dro o hyd ar y DU a'u gwaith nhw oedd "bod y gofalwyr i wneud yn siŵr bod gwaith y llywodraeth yn parhau".

Parhaodd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru tan i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog ar y 25ain o Hydref, a chafodd y swydd ei chynnig i David TC Davies - swydd yr oedd yn falch o dderbyn yr eildro.

Bydd y cyfweliad llawn gydag Ysgrifennydd Cymru i’w weld ar Raglen Newyddion y Flwyddyn 2022 am 20:25 ar 29 Rhagfyr ar S4C.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.