10 trychineb tywydd drytaf 2022 wedi costio o leiaf £2.5 biliwn yr un
Roedd y 10 trychineb tywydd drytaf yn 2022 wedi costio o leiaf £2.5 biliwn yr un, yn ôl adroddiad.
Mae'r asiantaeth ddyngarol Cymorth Cristnogol wedi disgrifio'r flwyddyn fel un "drychinebus" ar reng flaen newid hinsawdd.
Maen nhw'n cynnwys stormydd a sychder yn y DU ac Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau sylweddol ym mhob cyfandir sydd â phoblogaethau.
Corwynt Ian gafodd yr effaith fwyaf yn ariannol, sef £82.4 biliwn, pan darodd yr UDA a Chuba ym mis Medi.
Arweiniodd y corwynt at 130 o farwolaethau gan olygu bod 40,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Y digwyddiad mwyaf niweidiol mewn termau dynol oedd llifogydd Pacistan rhwng mis Mehefin a mis Medi, oedd yn llawer mwy tebygol o ganlyniad i newid hinsawdd yn ôl gwyddonwyr.
Bu farw 1,739 o bobl a bu'n rhaid i saith miliwn o bobl adael eu cartrefi yn sgil y llifogydd ym Mhacistan.
Fe gostiodd y llifogydd £4.6 biliwn - ond mae hynny ond yn cyfri colledion oedd ag yswiriant - ac mae'r gwir gost yn debygol o fod yn fwy na £24.7 biliwn, yn ôl Cymorth Cristnogol.
Mae'r 10 digwyddiad tywydd mwyaf costus yn 2022 hefyd yn cynnwys Storm Eunice ym mis Chwefror, a darodd y DU ac Iwerddon yn ogystal â rhannau eraill o Ewrop.
Bu farw 16 o bobl yn y storm ac roedd difrod gwerth £3.5 biliwn.