Newyddion S4C

'Angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl'

27/12/2022
Iechyd meddwl

Bydd mwy o bobl yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl os na fydd arian newydd yn cael ei fuddsoddi yn y ddwy flynedd nesaf.

Dyna'r rhybudd gan uwch arweinydd yn y sector iechyd meddwl.

Rhybuddiodd prif weithredwr y Rhwydwaith Iechyd Meddwl, Sean Duggan, y gallai’r argyfwng costau byw arwain at gynnydd mewn pobl sydd yn ceisio am driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl.

Dywedodd fod angen cynllun newydd gyda chefnogaeth a “buddsoddiad cynaliadwy”, ond os na fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf bydd rhestrau aros am driniaeth iechyd meddwl yn codi.

Mae’r data diweddaraf gan y GIG yn dangos cynnydd o 30% yn nifer y bobl dan 18 oed sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, anabledd dysgu ac awtistiaeth o 763,888 yn y flwyddyn 2019-20 i 992,647 yn 2021-22.

Mae’r data hefyd yn dangos bod 3,256,695 o bobl o bob oed mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth ar ryw adeg yn y flwyddyn honno, gyda’r cyfanswm cyffredinol yn codi o un rhan o bump mewn tair blynedd, i fyny o 2,803,244 yn 2020-21.

Ond rhybuddiodd Mr Duggan, er bod y cynnydd ers y pandemig yn ddisgwyliedig, nid yw'n glir faint o effaith y bydd yr argyfwng costau byw yn ei gael ar wasanaethau iechyd meddwl ymhen blwyddyn neu ddwy.

"Os edrychwch chi ar ddiwedd difrifol yr argyfwng costau byw, mae hynny'n mynd i daro ymhen blwyddyn neu ddwy," meddai.

Dywedodd yr elusen iechyd meddwl Mind, gyda’r galw am gymorth eisoes “yn sylweddol” fwy na’r capasiti sydd ar gael, y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu cau allan os na fydd buddsoddiad newydd yn cael ei wneud.

Dywedodd eu pennaeth polisi ac ymgyrchoedd, Paul Spencer, er bod y Llywodraeth wedi gwneud rhai ymyriadau i’w croesawu heb “ddiwygiad llwyr” i’r system ehangach roedd y rhain yn “rhywbeth o blastr glynu”.

“Rydyn ni’n gwybod bod 1.8 miliwn o bobl ar restrau aros am gymorth iechyd meddwl, gydag wyth miliwn arall yn methu â chael unrhyw fath o help o gwbl," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i gynyddu eu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda £50 miliwn ychwanegol yn 2022-23, gan gynyddu i £90 miliwn yn 2024-25.

"Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwelliant parhaus yn y gwasanaeth a mynediad at gymorth."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.