Newyddion S4C

Disgwyl tagfeydd traffig ar Ŵyl San Steffan o ganlyniad i streiciau gweithwyr trên

26/12/2022
Traffig
Traffig

Fe allai siopwyr sy’n gobeithio cael bargen Gŵyl San Steffan wynebu tagfeydd traffig wrth i streiciau rheilffordd olygu bod dim gwasanaethau ar gael.

Mae miloedd o bobl sy'n bwriadu teithio ar drên wedi cael eu gorfodi i wneud cynlluniau eraill.

Fel arfer, mae cannoedd o wasanaethau yn rhedeg ar 26 Rhagfyr.

Ond dywedodd Network Rail y bydd rheilffyrdd Prydain yn parhau ar gau am ail ddiwrnod yn olynol oherwydd bod gweithwyr undeb RMT yn streicio.

Dywedodd yr AA ei fod yn disgwyl 15.2 miliwn o geir ar ffyrdd y DU ar Ŵyl San Steffan, gyda siopwyr a chefnogwyr pêl-droed ymhlith y rhai sy’n debygol o deithio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr AA: “Mae traffig yn debygol o adeiladu o amgylch canolfannau siopa wrth i lawer o bobl chwilio am fargen, yn y cyfamser bydd cefnogwyr pêl-droed yn teithio i weld eu timau.

“Mae lle ar gyfer tagfeydd traffig lleol a mwy o deithiau byr, ond dylai traffig fod yn wasgaredig trwy gydol y dydd wrth i bobl gymryd eu hamser ar ôl Dydd Nadolig.”

Mae data newydd hefyd wedi rhagweld y bydd siopwyr yn gwario 4% yn llai dros Ŵyl San Steffan ar ôl y Nadolig oherwydd yr argyfwng costau byw.

Dengys ymchwil gan Barclaycard Payments fod y siopwr cyffredin yn bwriadu prynu gwerth £229 o eitemau yn y cyfnod gwerthu ar ôl y Nadolig, gostyngiad o £18 o gymharu â 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.